Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cytuno ar Cynllun Gwella Rhan 1 2018/19

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi pennu wyth amcan gwella ar gyfer eleni, a lywir gan Gynllun Corfforaethol y Cyngor, Hunanasesiad Blynyddol y Cyngor, y broses cynllunio gwasanaethau flynyddol, adroddiadau gan ein rheoleiddwyr allanol, yn ogystal â gan yr hyn mae ein trigolion wedi ei ddweud wrthym mewn ymgyngoriadau sydd wedi’u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Mae'r Cyngor yn gyson yn ceisio darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol o safon i drigolion y Fro, tra ar yr un pryd ceisio gwella.

 

Cyhoeddir y gweithgareddau i’w cyflawni yn Amcanion Gwella'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y Cynlluniau Gwasanaeth, sy’n dull allweddol o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a gaiff eu monitro bob chwarter.

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd statudol i gyhoeddi Amcanion Gwella bob blwyddyn, a phennu targedau’n erbyn y rhain er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni ac i ddinasyddion.

 

Gallwch darllen mwy o wybodaeth ar ein Cynllun Gwella Rhan 1 2018-19 a'r crynodeb ar ein gwefan.