Cost of Living Support Icon

Eiddo Masnachol Gwag

Ydych chi'n chwilio am eiddo masnachol gwag ym Mro Morgannwg ar gyfer eich busnes?

Gall ein tîm Adfywio eich helpu! 

Commercial Property

 

Mae gan ein cronfa ddata eiddo y rhestrau diweddaraf o dir ac eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg a all eich helpu i ddod o hyd i eiddo sy'n bodloni eich gofynion.  Mae'n cynnwys eiddo sy'n eiddo preifat yn ogystal ag unedau masnachol sy'n eiddo i'r Cyngor neu'n cael eu rheoli. 


Chwilio Eiddo Bro Morgannwg

 

Os ydych yn berchen ar eiddo neu os ydych yn asiant sy'n dymuno gosod neu werthu eiddo nad yw'n ymddangos yn ein cronfa ddata ar hyn o bryd, cysylltwch â ni gyda'r manylion eiddo perthnasol a byddwn yn eu hychwanegu at ein cronfa ddata.

  

Ar gyfer ymholiadau ynghylch dod o hyd i eiddo addas neu ychwanegu eiddo at y gronfa ddata, cysylltwch â:

 

 

  

Ydych chi'n berchen ar eiddo masnachol gwag? 

Efallai y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gallu eich cynorthwyo i ddod ag ef yn ôl i ddefnydd gyda'r canlynol:   

 

  • Gwasanaeth Paru 
     Eich helpu i ddod o hyd i denant busnes trwy ein cronfa ddata o gysylltiadau.
  • Trosi o fasnachol i breswyl  

    Os ydych yn ystyried trosi eiddo masnachol yn breswylfa (yn amodol ar ganiatâd cynllunio) yna efallai y gallwn eich helpu gyda Benthyciad Landlord Eiddo Gwag Di-Log

     

    Cysylltwch â Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a allai weithio gyda chi neu a allai fod â diddordeb mewn prynu'r eiddo gennych chi.

  • Trawsnewid Trefi: Benthyciad Canol y Dref 

    Cynllun Benthyciadau Eiddo Gwag Canol Tref Y Bont-faen

    Cynllun Benthyciadau Eiddo Gwag Canol Tref Y Barri

     

     

  • Trawsnewid Trefi: Grant Creu Lleoedd - Rhaglen Grant Heol Holtwn

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y cymorth a restrir uchod, cysylltwch â:

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan