Cost of Living Support Icon

Eich Taith Gwaith Chwarae

Ydych chi'n angerddol am ddarparu cyfleoedd i blant chwarae? Dysgwch am hyfforddiant, gwirfoddoli a gyrfaoedd mewn gwaith chwarae!

 Start Your Playwork Journey

 

Hyfforddiant Gwaith Chwarae

Gall ein tiwtoriaid gwaith chwarae cymwys gynnig cyfleoedd hyfforddiant a gydnabyddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gan gynnwys Lefel Un Cyflwyniad i Waith Chwarae, Gwobr Lefel Dau mewn Ymarfer Gwaith Chwarae a Gwobr Lefel Tri mewn Pontio i Waith Chwarae.

 

Cyfleoedd Hyfforddiant Pwrpasol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau achrededig a heb eu hachredu i'ch arwain ar eich taith gwaith chwarae. 

  • Diogelu

  • Cymorth Cyntaf Pediatrig

     

  • Trin â Llaw

     

  • Cymorth Cyntaf Awyr Agored

     

  • Hylendid Bwyd

     

  • Ymarfer Chwarae Awyr Agored

     

  • Sgiliau Gwaith Chwarae e.e. Crefft Pren, Cawl Pridd, Gweithdai Clym, Adeiladu Ffau, Modelu Sothach: Parod, Sefydlog, Chwarae!

 

Ymunwch â'n Tîm

Ydych chi'n frwd dros roi cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc? Ydych chi eisiau rôl y gallwch ei gwneud y tu allan i amseroedd ysgol? 

 

Mae Tîm Chwarae’r Fro yn recriwtio gweithwyr chwarae i gefnogi cyfleoedd chwarae ar ôl yr ysgol, yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar benwythnosau. Dyma swydd achlysurol ac mae'r oriau'n hyblyg, sy'n golygu y gallwch ymrwymo i gynifer neu gyn lleied o sesiynau ag yr hoffech.

 

Byddwch yn rhan o dîm chwarae deinamig sy'n cynnig cyfleoedd chwarae pwrpasol a chynhwysol mewn darpariaethau amrywiol ar draws y Fro. Mae ein darpariaethau chwarae yn cynnwys Cynlluniau Chwarae, Clybiau Gwyliau Cofrestredig, sesiynau Ceidwaid Chwarae, sesiynau Crwydrwyr Coed, Digwyddiadau Cymunedol a Hwyl i’r Teulu.

 

Rydym yn gwbl gynhwysol ym mhopeth a ddarparwn, a'n rôl ni yw sicrhau bod plant sy'n byw ym Mro Morgannwg yn cael y cyfleoedd gorau posib i gael mynediad at ddarpariaeth chwarae o safon uchel.

 

Os ydych am Ddechrau Eich Taith Gwaith Chwarae, gallwch wneud cais am ein swydd Gweithiwr Chwarae.

Os oes gennych Gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 2, neu barodrwydd i weithio tuag at gyflawni hynny, gallwch wneud cais am ein swydd Uwch Weithiwr Chwarae.

 

 

Os oes gennych Gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 neu gyfatebol, gallwch wneud cais am ein swydd Arweinydd Chwarae.

 

Gwnewch gais am un o'n swyddi dros dro gwag

Cyfleoedd Gwirfoddoli gyda Thîm Chwarae'r Fro

 

Ydych chi'n frwd dros roi cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc? Hoffech chi wirfoddoli eich amser i gefnogi ein darpariaeth chwarae a chael profiad o fewn y sector gwaith chwarae? 

 

 

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant i'r rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi darpariaeth chwarae lleol ym Mro Morgannwg.

 

 

I ofyn am gopi o'n pecyn gwirfoddoli ac am fwy o wybodaeth am eich taith gwaith chwarae, cysylltwch â'n tîm

For more information

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am eich taith gwaith chwarae cysylltwch â'n tîm: