Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Gall chwarae gael ei brofi gan blant ar eu pennau eu hunain heb oruchwyliaeth oedolion mewn amrywiaeth o leoedd. Gall chwarae gael ei gefnogi hefyd gan rieni/gofalwyr yn y cartref neu yn yr amrywiaeth gwych o leoedd awyr agored ledled y Fro. Yn ogystal, gall chwarae gael ei gefnogi gan weithwyr chwarae mewn cynlluniau chwarae, sesiynau Ceidwaid Chwarae, a chlybiau a digwyddiadau ar ôl ysgol.
Gall chwarae ddigwydd ar sawl ffurf. Ymhlith y gwahanol fathau o chwarae, mae:
Chwarae yn yr awyr agored – defnyddio amgylchedd awyr agored gwych y Fro, gan gynnwys parciau gwledig, traethau, coedwigoedd, parciau a mannau agored..
Chwarae llanast – mae angen i blant gael profiad o chwarae yn y mwd neu mewn dŵr, a chael paent a llysnafedd drostyn nhw! Mae’n eu galluogi i deimlo gwahanol weadau ac i arbrofi – ac mae’n llawer o sbort!
Chwarae synhwyraidd – mae’n bwysig rhoi cyfle i blant brofi’r gwahanol synhwyrau, megis arogli a theimlo.
Chwarae creadigol/dychmygus – mae hyn yn helpu plant bach i ddatblygu eu synhwyrau trwy anturio a darganfod, adeiladu, credu, dyfeisio a chwarae rôl.
Mae'r rhaglen Chwarae yn y Gymuned (‘PIC a Mix’) yn cynnig cyfleoedd chwarae dan arweiniad y gymuned ar draws Bro Morgannwg.
Mae'r Rhaglen ‘PIC a Mix’ yn cynnwys:
Cynlluniau Chwarae - Gellir darparu ein Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored o wahanol adeiladau cymunedol ledled y Fro
Ceidwaid Chwarae - Gellir cyflwyno ein sesiynau Ceidwaid Chwarae Mynediad Agored o barciau a mannau agored ledled y Fro
Iach, Actif a Chwarae Dan Do/yn yr Awyr Agored - Cyflwynir ein sesiynau Chwaraeon a Chwarae Mynediad Agored mewn lleoliadau dan do ac yn yr awyr agored ledled y Fro
Gweithdai Chwarae Rhieni/Gofalwyr - Gellir cyflwyno ein gweithdai yn bersonol neu’n rhithwir.
Llogi Chwarae - Mae ein Prosiect Llogi Chwarae yn rhoi cyfle i logi adnoddau am ddim i hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae. Mae hyn yn cynnwys pecynnau teuluol a'n Dewislen Tecawê Chwarae ar gyfer grwpiau cymunedol
Rhannau ar gyfer Chwarae - Mae ein Prosiect Rhannau Rhydd yn darparu offer i wella chwarae mewn ysgolion yn ystod oriau ysgol a'r tu allan i oriau ysgol
Prynu Diwrnod Chwarae - Ein pecynnau chwarae â phrisiau ar gyfer digwyddiadau ac at ddefnydd busnes
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd Chwarae Cymunedol, cysylltwch â'n Swyddog Datblygu Chwarae Cymunedol, Julia Sky: