Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Tîm Chwarae'r Fro

Rydym yn cynnig man sy’n benodol i blant, ac sy’n hwyliog, cyfeillgar a heriol i bob plentyn.

 

Rydym yn annog plant i archwilio, arbrofi, profi a darganfod pob agwedd ar y chwarae a ddarperir, ac yn eu helpu i wneud hynny.

 

 

Vale Sports and Play logo
  • @ValePlayTeam 
  • @ValePlayTeam
  • 01446 704809

 

Buddion a ddaw o Chwarae

Mae chwarae o fudd i blant, teuluoedd a’r gymuned ehangach. Ymhlith y buddion hyn, mae:

  • Cynyddu hyder drwy ddatblygu sgiliau newydd
  • Gwella iechyd corfforol a meddyliol
  • Hybu’r dychymyg, creadigrwydd ac annibyniaeth
  • Creu gwydnwch drwy gymryd risgiau a herio, datrys problemau a delio gyda sefyllfaoedd newydd
  • Rhoi cyfle i gymysgu gyda phlant eraill o bob gallu a chefndir
  • Gall chwarae ffantasi alluogi plant i wneud synnwyr o agweddau anodd neu bryderus ar eu bywydau
  • Gall chware fod yn hwyl, a pheri i blant ymlacio, gall fod yn rhyddhad rhag pryder a straen.
  • Wrth chwarae, does dim rhaid i blant a phobl ifanc gydymffurfio ag agendâu oedolion.
  • Cael llawer o hwyl!

 

Cwrdd â'n Tîm

Joanne Jones – Uwch Swyddog Datblygu Chwarae

  • 07923 241 549

 

Julia Sky – Swyddog Chwarae Cymunedol 

  • 07749 401213

 

 

Sut gall Tîm Chwarae'r Fro eich cefnogi?

Gall Tîm Chwarae'r Fro gynnig:

  • Llogi Offer
  • Cymorth i ddatblygu prosiectau chwarae cymunedol
  • Hyfforddiant pwrpasol
  • Cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau

 

Play to Go Logo 2021

Chwarae I Fynd

Adnoddau i hyrwyddo hawl plentyn i chwarae

 

Chwarae I Fynd

 

National-Play-Day-2013

Chwarae yn y Gymuned

Ein cyfleoedd chwarae yn y gymuned i blant 4 - 11 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg.

 

Chwarae yn y Gymuned

play-development-craft-session

Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf

Ar gyfer plant 4 - 11 oed ag anableddau ac anghenion ychwanegol sy'n byw ym Mro Morgannwg.

 

Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf

 

Ymunwch â'n tîm

Oherwydd natur y ddarpariaeth chwarae a ddarparwn, mae angen tîm staff achlysurol mawr arnom i sicrhau bod anghenion plant yn y Fro yn cael eu diwallu.

 

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag achlysurol o fewn ein tîm. Ewch i'r dudalen Swyddi i wneud cais am ein rolau achlysurol:

  • Gweithiwr Chwarae Achlysurol
  • Uwch Weithwyr Chwarae Achlysurol
  • Arweinydd Chwarae Achlysurol

Gwnewch gais am un o'n swyddi gwag achlysurol

 

Bydd staff a gwirfoddolwyr yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddi gan gynnwys:

  • Hyfforddiant Gwaith Chwarae: Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2YGCh) / Rheoli Cynllun Chwarae Gwyliau (RhCChG)
  • Hyfforddiant Anableddau a Chynhwysiant
  • Cymorth Cyntaf Paediatreg
  • Diogelu plant
  • Gwaith Codi a Chario
  • Chwarae yn yr awyr agored
  • Chwarae Synhwyraidd

I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi gwag hyn neu ein cyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â'n tîm: