Cost of Living Support Icon

Adnoddau i Gefnogi Chwarae

Adnoddau cost isel a dim cost o gwbl i hyrwyddo hawl i plentyn i chwarae.

10

Chwarae i Fynd

Mae’r cit llogi Chwarae i Fynd wedi ei llunio gan Dîm Datblygu Chwarae’r Fro i gefnogi cymunedau i ddatblygu darpariaeth chwarae gynaliadwy ym Mro Morgannwg.

 

Mae’n Dewislen Chwarae Tecawê yn dangos yr ystod lawn o offer chwarae sydd ar gael i’w llogi.

 

Er nad oes tâl am yr offer, byddem yn gwerthfawrogi unrhyw roddion yn fawr. Caiff unrhyw arian a godir ei ddefnyddio i gefnogi chwarae cymunedol ymhellach, a chyfrannu at ehangu rhychwant yr offer sydd ar gael.

 

 

 

Os ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sy’n gwneud elw ac yr hoffech logi offer neu logi ein gwasanaethau, cysylltwch â playdevelopment@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

 

Rhannau Rhydd

Er bod plant yn gallu ac yn chwarae gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau y gallwn eu darparu sy'n hwyluso ac yn annog chwarae. Gelwir eitemau megis, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, pren a deunyddiau sgrap a ddefnyddir ar gyfer chwarae yn rhannau rhydd.

 

Mae rhannau rhydd yn cael eu defnyddio'n eang gan blant mewn lleoliadau chwarae, ysgolion a chanolfannau gofal plant.  Mae cael gafael ar ac ailddefnyddio defnyddiau fel pethau i blant chwarae â nhw mewn lleoliadau yn ffordd fach a syml o helpu'r amgylchedd, tra'n gwella cyfleoedd i chwarae a chreadigrwydd.

 

Gall unrhyw beth a ddefnyddir fel rhan rhydd gynnig posibiliadau chwarae di-derfyn. Er enghraifft, gall ffon droi'n wialen bysgota ger dŵr go iawn neu ddychmygol, neu lwy mewn cegin fwd, neu yn erfyn i ryddhau pêl-droed sy'n sownd mewn coeden; gellir ei daflu, ei arnofio, ei falu, ei ‘bingio’, ei blygu, ei guddio, ei ychwanegu at bentwr, ei glymu i rywbeth arall, ei hollti, ei gatapwltio, neu ei ddefnyddio i wneud tân.

 

Ceir damcaniaeth ynghylch rhannau rhydd. Mae’n datgan: 'Mewn unrhyw amgylchedd, mae gradd y dyfeisgarwch a’r creadigrwydd, a'r posibilrwydd o ddarganfod, yn uniongyrchol gymesur â'r nifer a'r math o amrywiolion ynddo.'

 

Mae Chwarae Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth 'Rhannau Rhydd'. Mae’r blwch offer Adnoddau chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant  wedi ei ddatblygu i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar, ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd o fewn eu lleoliadau.

 

Iach, Actif a Gartref

Amlygodd y pandemig yr effaith gadarnhaol y mae chwarae’n ei chael ar fywydau plant, pobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned ehangach, wrth ddatblygu gwytnwch a chefnogi iechyd meddwl a lles. 

 

Yn ystod anterth pandemig COVID-19, gweithiodd Tîm Chwaraeon a Chwarae'r Fro gyda'i gilydd i ddatblygu gweithgareddau a syniadau cost isel/dim cost i deuluoedd roi cynnig arnyn nhw gartref.

 


 

 

 

Storfa Sgrap Ail-greu: Canolfan Adnoddau Chwarae Caerdydd a'r Fro

Ail-greu yw Canolfan Adnoddau Chwarae Caerdydd a’r Fro. Os ydych chi'n chwilio am ddeunyddiau cost isel ar gyfer cyfleoedd chwarae, yna ewch i'r em gudd hon!

 

Mae Ail-greu yn darparu ystod o wasanaethau i deuluoedd, myfyrwyr ac amryw o grwpiau a lleoliadau cymunedol. Mae Ail-greu yn darparu:

  • Siop sgrap - gwastraff a deunyddiau dros ben wedi'u casglu gan gwmnïau a ffatrïoedd lleol, ar gael i'w hail-ddefnyddio'n greadigol
  • Deunydd celf a chrefft am bris isel
  • Offer chwarae i'w llogi

I gael cip ar y storfa sgrap, gwyliwch y fideo yma:

https://www.youtube.com/watch?v=btab31yZy2A   

 

Recreate Scrapstore

 

 

Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw elusen Cymru sy'n ymroddedig i helpu plant i chwarae.  Mae Chwarae Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hybu arfer da ar bob lefel o wneud penderfyniadau ac, ym mhob lle, lle gallai plant chwarae. Mae Chwarae Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu'n gyfrifol am ddarparu ar gyfer chwarae plant fel y bydd Cymru, rhyw ddydd, yn wlad lle byddwn yn adnabod ac yn darparu'n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.

 

Ewch i wefan Chwarae Cymru

 

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru sydd â’r nod o helpu rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol. Mae gwefan Plentyndod Chwareus yn cynnwys cyngor a syniadau ar gyfer Rhianta Chwareus a Chymunedau Chwareus.

 

Ewch i wefan Plentyndod Chwareus

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch: