Cost of Living Support Icon

Strwythurau ar y Briffordd

Mae strwythurau ar y briffordd yn cynnwys pontydd, ffosydd, isffyrdd, pontydd troed, pibelli sy’n fwy na 600mm ar eu traws a muriau cynnal.

 

Rheolir strwythurau ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus gan Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor.

 

Mae Network Rail yn berchen llawer o’r strwythurau ac yn gyffredinol mae’n berchen ar yr holl strwythurau sy’n cludo’r rheilffordd dros y briffordd a llawer o strwythurau sy’n cludo’r briffordd dros reilffyrdd gweithredol. Yn gyffredinol mae gan strwythurau y mae Network Rail yn berchen arnynt gyfeirnod ar y bont gyda manylion cyswllt os bydd gwrthdrawiad â’r bont neu broblemau cynnal a chadw eraill.

 

Mae perchenogion strwythurau eraill yn cynnwys Rail Property Ltd. (a leolir dros reilffyrdd nas defnyddir mwyach), perchenogion preifat ac awdurdodau dŵr.

Archwilir yr holl strwythurau ar y briffordd yn rheolaidd (bob 2 flynedd) gan archwilydd pontydd dynodedig. Yn ogystal, archwilir pob strwythur bob 6 blynedd gyda Phrif Archwiliad (archwiliad mwy manwl, yn cynnwys trefniadau mynediad arbenigol yn aml).

 

Diffinnir pont fel unrhyw strwythur ar y briffordd sy’n cludo priffordd neu lwybr cerdded gaiff ei gynnal gan y Sir sy’n 900mm neu fwy o ran lled. Mae hefyd yn cynnwys strwythurau sy’n cludo’r briffordd dros gyrsiau dŵr.

Rhestr o strwythurau a gynhelir gan y Cyngor

 

  • Pont. Lled > 3m

     

    • Cyfanswm y Nifer: 100

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd cyflymdra uchel Strategol: 4

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 23

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 57

    • Nifer y strwythurau sy'n gofrestedig: 3

    • Nifer y strwyth urau mewn ardal gadwraeth: 13

  • Pont. Lled < 3m

     

    • Cyfanswm y Nifer: 3

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 3

  • Pontydd cerdded
     
    • Cyfanswm y Nifer: 194

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 2

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 174

    • Nifer y strwyth urau mewn ardal gadwraeth: 18

  • Ceuffos. Lled < 3m
     
    • Cyfanswm y Nifer: 154

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd cyflymdra uchel Strategol: 1

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 16

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 118 

    • Nifer y strwythurau sy'n gofrestedig: 1

    • Nifer y strwyth urau mewn ardal gadwraeth: 18

  • Ceuffos. Lled > 3m
     
    • Cyfanswm y Nifer: 99

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 14

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 70

    • Nifer y strwythurau sy'n gofrestedig: 1

    • Nifer y strwyth urau mewn ardal gadwraeth: 14

  • Isffyrdd
     
    • Cyfanswm y Nifer: 10

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 2

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 8

  • Mur Cynhaliol
     
    • Cyfanswm y Nifer: 65

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd cyflymdra uchel Strategol: 1

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd Strategol eraill: 16

    • Nifer y strwythurau a leolir ar ffyrdd heb fod yn Strategol: 39

    • Nifer y strwyth urau mewn ardal gadwraeth: 9

 

Muriau Cynnal

Diffinnir muriau cadw fel waliau o fewn terfyn y briffordd sy’n cadw'r briffordd ar uchder nad yw’n fwy na 1.37m (4tr 6md) neu y’u hystyrir yn arwyddocaol yn strategol gan yr Adran Caffael a Dylunio Peirianneg.

 

Yn gyffredinol, Cyngor y Sir sy'n gyfrifol am furiau sy'n cynnal y briffordd ond meddir ar rai yn breifat.

 

Archwilir muriau cynnal yn rheolaidd gan arolygydd pontydd dynodedig. Llywodraethir amseroedd yr archwiliadau gan yr uchder a gedwir ac archwilir yr holl furiau cynnal o dro i dro ond heb fod yn gyfnod sy’n fwy na dwy flynedd.  

Asesu Pontydd

Dan Raglen Asesu Pontydd y Sir, mae asesiadau strwythurol yn cael eu gwneud ar yr holl bontydd sy’n gymwys ar gyfer asesiad i benderfynu faint y gallent ei gludo'n ddiogel.

 

Mae’r cam cyntaf yn cynnwys y strwythurau hynny ar lwybrau strategol y’u hystyrir yn flaenoriaeth yn rhinwedd eu lleoliad a’u math.

 

Mae’r Cyngor yn parhau i asesu’r holl strwythurau ar y briffordd sy’n weddill.

 

Cymeradwyaeth Dechnegol

Yn ôl gofynion Cyngor Bro Morgannwg, mae pob strwythur arfaethedig o fewn terfyn y briffordd neu sy’n cefnogi’r briffordd gyhoeddus yn destun ystyriaeth ar gyfer Cymeradwyaeth Dechnegol.

 

Gallai hyn gynnwys strwythurau arfaethedig i’w mabwysiadu neu rai eraill sy’n gysylltiedig â datblygiadau preifat.

 

Nodau gweithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol yw sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod strwythurau ar y briffordd yn ddiogel i’w defnyddio ac yn addas at y swyddogaeth a fwriadwyd iddynt, ac nad yw strwythurau nad ydynt ar y briffordd yn rhwystro’r briffordd neu beryglu ei ddefnyddwyr.

 

Manylir ar weithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol Cyngor Bro Morgannwg yn BD2 (Cymeradwyaeth Dechnegol Strwythurau ar y Briffordd), sy’n cyfeirio at y materion yn yr wybodaeth hon.

 

Mae Cymeradwyaeth Dechnegol yn golygu adolygiad o gynnig y dylunydd gan Awdurdod Cymeradwyaeth Dechnegol (ACD) a gallai gynnwys ardystiad gan ddylunydd a gwiriwr annibynnol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth ‘fel yr adeiladwyd’, gyda thystysgrif cydymffurfiaeth adeiladu.

 

ACD y Cyngor yw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio Economaidd (y swyddog sy’n gweinyddu’r pwerau dirprwyedig yw Peiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg.)

 

  • 02920673105

 

Gweithredu gweithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol - cynhelir pob ymgynghoriad rhwng y cynllunydd a Pheiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg yn Swyddfa’r Alpau, Gwenfô, CF5 6AA. Rhif ffôn: 029 2067 3105.

 

Cymeradwyaeth mewn Egwyddor (AIP) - bydd cyflwyniad yr AIP yn gofnod o bob mater a gytunwyd arno yn ystod y cyfnod cynllunio. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys Amserlen y Gymeradwyaeth Dechnegol (TAS), cynllun o’r safle, darlun y trefniant cyffredinol, unrhyw adrannau perthnasol i’r adroddiad daearyddol-dechnegol sy’n ymwneud â’r ymgynghoriad ac unrhyw wybodaeth berthnasol bellach. Caiff ei anfon at Beiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg.

 

Tystysgrif Dylunio a Gwirio - bydd y cyfryw dystysgrifau, ynghyd â Thystysgrif Cydymffurfiaeth Adeilad, yn cael eu llofnodi i gadarnhau cwblhad boddhaol y gwaith, a chânt eu hanfon at Beiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg. Bydd y tystysgrifau’n cyfeirio at yr AIP perthnasol a dyddiad cytuno’r AIP. Ni ddylid cyflwyno amcanrifau.

 

Cymeradwyaeth Dechnegol – bydd hyn yn cynnwys derbyn y Tystysgrif(au) a’r darluniau ac ati gan y TAA. Bydd tystysgrifau cymeradwy wedi eu llofnodi’n cael eu copïo a’u dychwelyd at y cynllunydd.

 

Tystysgrif Cydymffurfiaeth Adeiladu – mae gofyn cyflwyno’r cyfryw dystysgrifau yn achos pob adeiladwaith y cynigir eu mabwysiadu.

 

Cymeradwyaeth Strwythurol ar gyfer Rheoli Adeiladu – bydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg yn adolygu cyfrifiadau strwythurol sy’n ymwneud â Cheisiadau Cynllunio a gyflwynir i gadarnhau’r effaith a gânt ar y briffordd fabwysiedig.

Gofynion cynllunio

Bydd gofynion technegol cynllunio adeiladwaith y priffyrdd yn golygu cydymffurfio’n gyffredinol â’r safonau perthnasol a’r nodiadau cynghori yn y llyfryn (Saesneg) ‘Design Manual for Roads and Bridges’ (DMRB), a bod y gwaith adeiladu’n cael ei weithredu yn unol â gofynion ‘Specification for Highway Works’ (SHW).

 

Bydd safonau eraill a gynigir yn cael eu cytuno â’r TAA drwy gyfrwng proses Cymeradwyaeth Dechnegol.

 

Cyhoeddir DMRB ac SHW gan The Stationery Office.