Cost of Living Support Icon
Japanese-Knotweed

Canclwm Japan

Mae’r cymal yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) sy’n datgan ei bod ‘yn drosedd i blannu neu i beri i’r planhigyn dyfu mewn modd arall yn ei gynefin’ yn berthnasol i’r holl wahanol fathau uchod.

 

Yn ôl Deddf Diogelu’r Amgylchedd (1990), mae canclwm Japan yn ‘wastraff rheoledig’, ac o’r herwydd, dylid gael gwared hono ar safle dirlenwi drwyddedig yn unol â Rheoliadau Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (1991).

 

Bydd adnabyddiaeth fuan o ganclwm Japan a thriniaeth ar fyrder yn arbed arian ac amser yn y tymor hir, gan mai dim ond dechrau ei sefydlu ei hun fydd y planhigyn, a bydd yn llai gwydn nag y bydd yn nes ymlaen. 

 

 

Canclwm Japan ar dir preifat

Nid yw’n ddyletswydd ar Gyngor Bro Morgannwg na Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli canclwm Japan ar ran tirfeddianwyr eraill. Cyfrifoldeb perchennog y tir yw rheoli canclwm Japan ar eu tir os yw’n effeithio ar dir cyfagos.

 

Mae dycnwch gwreiddgyffion canclwm Japan yn ei gwneud hi’n anodd gwaredu’r planhigyn. Bydd angen i chi drin y canclwm Japan am nifer o flynyddoedd, er eich bod yn credu eich bod wedi cael gwared ohono ar ôl y driniaeth gyntaf.

 

Pa ddull rheoli bynnag gaiff ei ddewis, bydd angen monitro’r safle yn gyson i sicrhau nad yw’r canclwm yn lledaenu i fannau eraill nac yn llygru dyfrffosydd.

 

Nodwch: bydd torri neu falu canclwm Japan yn peri iddo wasgaru. Peidiwch â chompostio na mân dorri canclwm Japan.

Cael gwared â chanclwm Japan

Ym Merthyr Tudful mae’r safle agosaf atoch chi sydd wedi ei thrwyddedu i dderbyn canclwm Japan.

  • Mae angen rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i drefnu ei waredu
  • Codir isafswm ffi o dair tunnell fetrig a chyfran o'r dreth dirlenwi, yn ddibynnol ar y pwysau dan sylw 
  • Rhaid gorchuddio trelars ar y daith, a dylid rhoi cyfeintiau bach o’r planhigion mewn bagiau wedi eu cau’n dynn. Ni ddylent gael eu cludo’n rhydd
  • Rhaid i yrwyr sicrhau bod y cerbyd yn wag ac yn lân cyn gadael y safle

 

Biffa Waste Services

Trecatti Landfill Site

Fochriw

Ger Dowlais

Merthyr Tudful

CF48 4AB

 

  • 01685 721882

 

Natural-Resources-Wales

Canclwm Japan sy’n tyfu ger dyfrffos

Os yw  canclwm Japan yn tyfu ger dyfrffos neu afon, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru. 

 

  • 0300 0653000 
Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Canclwm Japan ar dir y Cyngor

Os oes canclwm Japan yn tyfu ar dir sy’n perthyn i Gyngor Bro Morgannwg, rhowch wybod i Ganolfan UnFro:

 

 

Am wybodaeth bellach ac arweiniad am ganclwm Japan, ac i weld dulliau gwaredu planhigion ymosodol nad sy’n gynhenid i’r DU, ewch i wefan:

 

GOV.UK