Cost of Living Support Icon

Dosbarthiadau a Gweithdai 

Dewch o hyd i ddosbarthiadau celf, cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio a dawns ym Mro Morgannwg.

 

Mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau a gweithdai i’w mwynhau ledled Bro Morgannwg.

  

Cyrsiau Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Digidol Ffotogallery  

Canolfan y Celfyddydau Chapter 

Artistiaid sy’n arwain dosbarthiadau o grwpiau bach mewn awyrgylch anffurfiol, difyr. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu eu syniadau drwy gyfres o brosiectau ymarferol ac areithiau â darluniau, sy’n archwilio effaith ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol yn eu cyd-destun diwylliannol a hanesyddol.

 

Canolfan y Celfyddydau Chapter 

 

Dosbarth dyfrlliw a darlunio

Clwb Athletau Penarth 

Mae Andrew Coslett yn cynnal dosbarth dyfrlliw a darlunio cynnes a chyfeillgar tair awr bob wythnos. Sesiwn y bore: 9:30am - 12:30pm / Sesiwn y prynhawn: 1:00pm - 4:00pm.

 

Cymdeithas Gelf y Bont-faen 

Cyfle i rannu, dysgu a mireinio’ch sgiliau artistig. Mae aelodau’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ac arddulliau o baentio dyfrlliw traddodiadol i ddelweddau aml-gyfrwng a digidol ar gyfrifiadur.

 

Canu er mwyn yr Ymennydd – Cymdeithas Alzheimer’s 

Bob dydd Mawrth, 2:00pm - 3:30pm 

Eglwys y Santes Fair, Y Barri

Cyfle i bobl â dementia i gwrdd i gyd-ganu cyn cael paned a chlonc.

 

  • 029 2043 4965 

 

Cylch Cyfansoddwyr Caneuon Penarth 

Digwyddiad deufisol, 7.30pm 

Eglwys All Saints, Penarth 

Arddangos crefft cyfansoddi caneuon ar ei ffurf buraf gyda pherfformiad gan dri artist o fri. 

 

 

Côr St Donats Atlantic 

Dydd Llun 7:00pm - 9:00pm 

Canolfan y Celfyddydau San Dunwyd 

Mae côr cymunedol Canolfan y Celfyddydau’n cwrdd bob nos Lun i ymarfer.

 

  • 07813 325841

 

Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 

Mae’r côr yn awyddus i ddenu’r cantorion ifanc gorau i ymuno â nhw.

 

 

Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru 

Hon oedd y gerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf yn y byd. Erbyn hyn, mae ganddi dros 65 mlynedd o brofiad o gynnig hyfforddiant penigamp i gerddorion ifanc. Mae’n ysbrydoliaeth i gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.

 

 

Cynyrchiadau Omidaze  

Cwmni theatr bach â syniadau MAWR 

Mae Omidaze yn gweithredu mewn dau brif faes, sef Addysg OMIDAZE a Chynyrchiadau OMIDAZE.  

 

 

Cwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru 

I bobl ifanc o Gymru sydd rhwng 16 a 21 oed sydd eisoes yn ymwneud â grŵp drama yn yr ysgol neu’r coleg, neu gyda grŵp theatr ieuenctid leol.

 

 

Cwmni Theatr Ieuenctid Stage Door 1 

Caiff dosbarthiadau eu rhannu yn ôl oed. Mae’r cwmni’n cwrdd bob dydd Sadwrn yn Llanilltud Fawr ac yn cynnal tair sioe’r flwyddyn yng Nghanolfan y Celfyddydau.  

 

  • 01446 799100

 

Theatr Noson Allan  

Os ydych chi’n aelod o grŵp cymunedol sy’n awyddus i gyflwyno sioe broffesiynol yn eich cymuned leol, mae Noson Allan yn derbyn y risg ariannol drosoch chi. Yn ogystal, gall gynnig help a chyngor ymarferol, ariannu, tocynnau a syniadau am gynyrchiadau theatr i chi.   

 

Gwefan Noson Allan  

 

Y Penarth Players 

Grŵp theatr amatur croesawgar, cyfeillgar a phrysur sy’n cyflwyno amrywiaeth eang o gynyrchiadau.029 2070 3588 Dosbarthiadau Dawns y Stryd i bobl ifanc Neuadd Murchfield, Dinas Powys Cynhelir dosbarthiadau dawns y stryd bob nos Wener. 

 

  • 029 2051 3700

 

Stiwdio Ddawns Miranda Lee

Llun – Gwener  

Canolfan Gymunedol Castleland, Belvedere Crescent, Y Barri, CF63 4JZ

Dosbarthiadau arobryn neuadd ddawns a Lladin America i oedolion.

Bydd y dosbarth dechreuwyr newydd yn dechrau ar 3 Hydref 2023 rhwng 8.30 p.m. – 10.00 p.m.

 

Cwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 

Mae’r Cwmni’n gweithio gyda phobl ifanc o Gymru gyfan, ochr yn ochr â dawnswyr rhyngwladol a choreograffwyr adnabyddus, yn rhai o leoliadau gwychaf Cymru.

 

 

Dosbarthiadau Dawns y Stryd 

YMCA, Y Barri

I blant ac oedolion

 

 

Dawnsfeydd Te yng nghwmni Alan Taylor 

Canolfan y Celfyddydau San Dunwyd 

Dewch aton ni unwaith y mis i ddawnsio a chwrdd â ffrindiau newydd yn yr ystafell wydr hyfryd sy’n edrych dros y môr. Te prynhawn a chacennau. 2.00pm - 4.00pm

 

Gwefan Canolfan y Celfyddydau San Dunwyd