Cost of Living Support Icon

Llynnoedd a Phyllau Dŵr

Mae arwynebedd y prif lynnoedd yn Cosmeston dros 12ha o faint, ac mae pyllau llai i chi eu darganfod drwy’r parc cyfan.

 

Cosmeston-Lakes-Country-Park

Mae’r 12 ha o ddŵr agored yn denu heidiau mawr o adar y dŵr. Mae llyn y dwyrain yn lle gwych i weld niferoedd sylweddol o elyrch mud, hwyaid gwyllt a chwtieir, ac adar plymio megis yr wyach fawr gopog. Ceir ardal gadwraeth ger llyn y gorllewin, ac mae’n fan tawelach na llyn y dwyrain.

 

Saif ynys fach ar lyn y gorllewin, sy’n llecyn cysgodol addas i adar sy’n bridio. Pob gaeaf, mae llynnoedd Cosmeston yn denu heidiau mawr o adar hela sy’n ymfudo, megis corhwyaid, hwyaid copog, chwiwellau, hwyaid pengoch a hwyaid llydanbig, yn ogystal ag un o brif atyniadau byd adar, aderyn y bwn.

 

Llyn y gorllewin yw’r lle gorau i weld y crëyr llwyd a’i gyw, weithiau. Fel arfer, byddant yn sefyll yn gwbl lonydd ger y gwelyau cyrs yn aros i ddal unrhyw bysgod sy’n nofio heibio. Gwelir nifer o fulfrain ar y ddau lyn. Mae’r adar hyn yn nofwyr ac yn bysgotwyr penigamp, ac fe’u gwelir yn aml yn estyn eu hadenydd i’w sychu ar ôl sesiwn blymio brysur. Mae glas y dorlan yn byw yma gydol y flwyddyn yn ei holl ogoniant, ond fel arfer yr unig gip cewch chi arno yw cri gras a fflach o las tanbaid wrth iddo wibio heibio.

 

Y tu hwnt i lygaid ymwelwyr, mae’r llynnoedd yn gartref i blanhigyn hynod brin o’r enw rhawn yr ebol serennog. Mae’r planhigyn hwn yn tyfu mewn dŵr hyd at chwe medr o ddyfnder mewn ardaloedd carreg galch neu sialc ger y môr, felly mae llynnoedd Cosmeston yn gynefin delfrydol iddo.

 

Ceir nifer o greaduriaid rhyfedd a rhyfeddol yn y llynnoedd, y pyllau dŵr a’r nentydd, megis madfall dŵr, chwilod plymio, cychwyr cefnwyn a malwod dŵr araf. Mae madfallod dŵr fel arfer yn osgoi dŵr lle mae pysgod yn byw, felly anaml y gwelir nhw yn y ddau brif lyn. Yn y pyllau llai sydd yn y parc gwledig, gwelir madfallod dŵr mawr copog, llyfn a phalfol. Mae madfallod dŵr wedi eu gwarchod gan y gyfraith. Mae’n anghyfreithlon i ddal, cadw neu drafod madfallod dŵr mawr copog heb drwydded.

 

Gwelir dyfrgwn swil o amgylch llyn y gorllewin. Mae’n gynefin delfrydol i ddyfrgwn am fod digonedd o bysgod yma. Mae cochiaid, rhuddbysgod a merfogiaid yn ffurfio heigiau mawr y llyn y dwyrain, ond nid yw hyn yn fawr o amddiffynfa gan brif reibiwr y dyfroedd hyn, y penhwyad llyfn.

 

Er lles cadwraeth, ni chaniateir pysgota yn Llynnoedd Cosmeston. Nid oes chwynladdwyr na phlaladdwyr yn cael eu defnyddio ar y safle, a chaiff dŵr y llynnoedd ei fonitro’n rheolaidd i wirio ei ansawdd.