Cost of Living Support Icon

Chatterbooks Clonclyfrau LogoGrwpiau Darllen Chatterbooks

Chatterbooks - grwpiau sy’n anelu i newid y ffordd yr ydych yn mynd ati i ddarllen drwy eich annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol, llawn hwyl.

 

Os ydych chi rhwng 8 a 12 oed fe allech chi ymuno ag un o’r grwpiau sy’n cyfarfod yn Llyfrgelloedd y Barri, Llaniltud Fawr, Penarth neu’r Bont-faen. Mae’r grwpiau’n cyfarfod unwaith y mis yn ystod y tymor ysgol o dan arweiniad llyfrgellwyr.

 

Nod Chatterbox ydy eich annog i fod yn anturus wrth ddarllen a magu hyder wrth siarad am lyfrau. Rhannwch eich brwdfrydedd am lyfrau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys popeth o ysgrifennu barddoniaeth a chwilio gwefannau i grefftau a chwisiau.

 

Pan fyddwch chi’n ymuno byddwch yn derbyn pecyn croeso sy’n cynnwys dyddiadur darllen, sticeri a gemau mewn bag Chatterbox arbennig.

 

Beth am ofyn am ffurflen ymaelodi yn eich llyfrgell leol?

 

Chatterbooks