Cost of Living Support Icon

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod      CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                        DYDD IAU, 20 GORFFENNAF, 2023 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                            CYFARFOD O BELL

 

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod

 

2.         Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2023.

[Gweld Cofnod]  

 

3.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]  

 

Cyfeiriadau –

4.         Strategaeth Pobl a Dogfennau Ategol - Pwyllgor Craffu Perfformiad Ac Adnoddau Corfforaethol: 26 Ebrill, 2023.

[Gweld Cofnod]  

5.         Archwilio Cymru – Cynllun Archwilio Amlinellol Bro Morgannwg 2023 –   Pwyllgor Craffu Perfformiad Ac Adnoddau Corfforaethol: 24 Mai, 2023.

[Gweld Cofnod]  

6.         Cyngor Bro Morgannwg – Cymhwyso'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy mewn Meysydd Gwasanaeth – Pwyllgor Craffu Perfformiad Ac Adnoddau Corfforaethol: 24 Mai 2023 – Pwyllgor Llywodraethu Ac Archwilio: 12 Mehefin, 2023.

[Gweld Cofnod]  

7.         Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2023/24 – Pwyllgor Llywodraethu Ac Archwilio: 12 Mehefin, 2023.

[Gweld Cofnod]  

8.         Diweddariad Ch4: Amserlen Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2022/23 – Cyngor Bro Morgannwg – Pwyllgor Llywodraethu Ac Archwilio: 12 Mehefin, 2023.

[Gweld Cofnod]  

9.         Adroddiad Diweddaru Prosiect Sero – Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd Ac Adfywio: 20 Mehefin, 2023.

[Gweld Cofnod]  

10.      Adroddiad Diweddaru Prosiect Sero – Pwyllgor Craffu Perfformiad Ac Adnoddau Corfforaethol:21 Mehefin, 2023.

[Gweld Cofnod]  

11.      Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad Diwygiedig – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 17 Gorffennaf, 2023. 

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiadau o Gyfarfodydd –

12.      Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd – 24 Ebrill, 2023.

[Gweld Cofnod]  

13.      Panel Rhianta Corfforaethol – 15 Mai, 2023

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiadau’r y Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

14.      Defnydd o Bwerau Argyfwng y Prif Weithredwr.

[Gweld Cofnod]  

15.      Strategaeth Pobl a Dogfennau Ategol.

[Gweld Cofnod]  

16.      Strategaeth Ariannol 2024/25.

[Gweld Cofnod]  

17.      Strategaeth Gyfalaf Ddrafft 2024/25 a Chynigion Rhaglen Gyfalaf Gychwynnol 2024/25 i 2028/29.

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –

18.      Ymgynghoriad ar y Cynnig i Gyflwyno Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn.

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu –

19.      Cynllun Tair Blynedd Cynnal a Chadw Priffyrdd Diwygiedig 2022 – 2024. [Gweler Atodiad A Cyflawn]

[Gweld Cofnod]  

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

20.       Cynllun Ardal ar y Cyd.

[Gweld Cofnod]  

 

21.      Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

22.       Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

14 Gorffennaf, 2023

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet –  

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

1 Sedd Wag – (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid – bydd materion sy’n dod o dan y portffolio hwn yn cael eu rhannu rhwng yr Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx