Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod       CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                         DYDD IAU, 25 MAI, 2023 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                             CYFARFOD O BELL

 

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Mai, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau o Gyfarfodydd -

4.       Panel Rhianta Corfforaethol – 13 Mawrth, 2023.

[Gweld Cofnod]

5.       Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – 27 Mawrth, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau -

6.       Archwilio Cymru: Gwanwyn Ymlaen – Rheoli Asedau a Chynllunio Gweithlu Bro Morgannwg – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 25 Ebrill, 2023.

[Gweld Cofnod]

7.       Cynnydd Ch3 yn Erbyn Argymhellion Rheoleiddio Allanol a Chynigion ar gyfer Gwella - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 25 Ebrill, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

8.       Penodiadau i Gyrff Allanol / Cydbwyllgorau.

[Gweld Cofnod]

9.       Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2023/24.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy –

10.     Adroddiad Ymgynghori Penarth Esplanade. [Gweld Ymatebion i'r Ymgynhoriad]

[Gweld Cofnod]

11.     Dod yn un o lofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru a datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd.

[Gweld Cofnod]

  

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –

12.     Diweddariad ar yr Ymgynghoriad ar y Cynnig i Gynyddu’r Capasiti ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg drwy Ehangu Ysgol Iolo Morganwg o 210 Lle i 420 Lle o Fedi 2025.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad o'r Portffolio ar gyfer Tai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid -

13.     Ffurfio Rhaglen Partneriaeth Tai gyda Chyngor Caerdydd.

(bydd yr adroddiad yn cael ei gymryd gan yr Arweinydd fel mater o fewn y Sector Cyhoeddus Tai ac Ymgysylltu â Thenantiaid.

[Gweld Cofnod]

 

14.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

          14(i) Cyfeirnod -
                   Cynllun Ailgartrefu Cyflym Bro Morgannwg - Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel: 17 Mai, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad o'r Portffolio ar gyfer Tai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid -

15.     Ffurfio Rhaglen Partneriaeth Tai gyda Chyngor Caerdydd.

(bydd yr adroddiad yn cael ei gymryd gan yr Arweinydd fel mater o fewn y Sector Cyhoeddus Tai ac Ymgysylltu â Thenantiaid.

[Gweld Cofnod]

 

16.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

19 Mai, 2023

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet –  

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

1 Sedd Wag – (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid – bydd materion sy’n dod o dan y portffolio hwn yn cael eu rhannu rhwng yr Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx