Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod       CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                        DYDD IAU, 19 HYDREF, 2023 AM 2.30 P.M.

 

Lleoliad                            CYFARFOD O BELL

 

(GOFYNNIR I AELODAU NODI

AMSER DECHRAU'R CYFARFOD)

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau -

4.       Hunanasesiad Blynyddol Drafft Cyngor Bro Morgannwg 2022/23 – Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel, 13eg Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

5.       Hunanasesiad Blynyddol Drafft Cyngor Bro Morgannwg 2022/23 – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 18 Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

6.       Cynllun Archwilio Manwl Drafft Archwilio Cymru 2023 a Diweddariad Chwarter 1 ar Raglen Waith Archwilio Cymru – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 18 Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

7.       Cynllun Tair Blynedd Diwygiedig Cynnal a Chadw Priffyrdd 2022-2024 – Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd ac Adfywio, 19eg Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

8.       Hunanasesiad Blynyddol Drafft Bro Morgannwg 2022/23 – Pwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau, 20 Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

9.       Adroddiad Monitro Cynllun Cyflawni Blynyddol: Perfformiad Chwarter 1 2023/24 – Pwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau, 20 Medi, 2023.

[Gweld Cofnod]

10.     Adolygiad Cymunedol Bro Morgannwg – Cynigion Drafft – Pwyllgor Cyswllt Cymunedol, 5 Hydref, 2023.

[Gweld Cofnod]

11.     Polisi Byw'n Annibynnol – Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel, 11eg Hydref, 2023 (Gweld Cyfeiriad).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau o Gyfarfodydd -

12.     Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – 31 Gorffennaf, 2023.

[Gweld Cofnod]

13.     Penodi Panel Ymgynghorol Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol – 11 Hydref, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

14.     Adroddiad Hunanasesiad Blynyddol Drafft Terfynol Cyngor Bro Morgannwg 2022/23.

[Gweld Cofnod]

15.     Adroddiad Monitro Cynllun Cyflawni Blynyddol: Perfformiad Chwarter 1 2023/24.

[Gweld Cofnod]

16.     Cronfa Costau Byw.

[Gweld Cofnod]

17.     Polisi Byw'n Annibynnol.

[Gweld Cofnod]

18.     Dyfarnu Contract Gweithiwr Asiantaeth.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu -

19.     Parc Seel, Dinas Powys.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid –

20.     Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2023-28.

[Gweld Cofnod]

 

21.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau –

22.     Dyfarnu Contract Gweithiwr Asiantaeth.

[Gweld Cofnod]

 

23.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

13 Hydref, 2023

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet –  

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

Y Cynghorydd S.D. Perkes – (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

 

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx