Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Tŷ Dewi Sant yn gartref preswyl un llawr, wedi'i adeiladu'n
bwrpasol ar gyfer pobl hŷn. Mae'n sefyll yn Myrtle Close, sydd wedi'i leoli mewn ardal breswyl sefydledig ym Mhenarth. Mae Penarth yn dref glan môr hyfryd gyda digonedd o siopau, tafarndai a bwytai, ardaloedd parciau braf a Phier ag adnewyddwyd yn ddiweddar.
Mae gan Tŷ Dewi Sant 33 o ystafelloedd ar gael ar gyfer galwedigaeth sengl.
Gall y cartref ddarparu llety, gofal a chymorth i:
Bobl hŷn agored i niwed dros 60 oed
Pobl dros 18 oed sy'n byw gyda Dementia
Pobl hŷn dros 60 oed sydd ag Anabledd Dysgu
Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Salwch Meddwl
Mae'r gwasanaeth yn medru darparu cefnogaeth gyda:
Roi meddyginiaeth bresgripsiwn
Gofal personol
Chynnal diddordebau personol a datblygu rhai newydd
Chael mynediad i weithgareddau hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol
Datblygu a chynnal perthynas
Cynnal a chynyddu annibyniaeth
Chymorth i sicrhau bod anghenion ysbrydol a diwylliannol yn cael eu diwallu.
Nid yw yn darparu gofal nyrsio, ond mae gan breswylwyr fynediad i:
Wasanaethau iechyd cymunedol fel Meddyg Teulu
Therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd
Ddeintydd
Optegydd
Chiropodydd
Nyrs Ardal
Wasanaeth Cymorth Seiciatrig Cymunedol a Dementia