Cost of Living Support Icon

Rheoli Risg 

Ystyr rheoli risg yw adnabod a dadansoddi risgiau posibl a phenderfynu ar y dulliau o leihau’r tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd, a’r effaith a allai ei gael ar y Cyngor

 

Mae gan y Cyngor broses mewn saith cam i reoli risg:

  • Adnabod Risg 
  • Dadansoddi Risg
  • Proffilio Risg 
  • Blaenoriaethu Gweithredu
  • Penderfynu Gweithredu
  • Rheoli Risg
  • Monitro a Chofnodi Cynnydd 

Rydyn ni fel Cyngor yn gwella ein dulliau o reoli risg i helpu i gynnal gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i’n cwsmeriaid. Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth reoli risg, a manylir ar ein hegwyddorion yn y Strategaeth Rheoli Risg.

 

Mae’r Gofrestr Risg Corfforaethol yn darparu amlinelliad manwl o’r Risgiau Corfforaethol sy’n wynebu’r Cyngor ar unrhyw adeg benodol. Mae’n nodi disgrifiad o’r risg ac yn pwysleisio statws pob risg corfforaethol yn ogystal â’r gweithredoedd sydd yn eu lle i leihau tebygolrwydd ac effaith y risg petai’n digwydd, neu’r camau sy’n cael eu datblygu at y diben hwn.

 

Mae ein risgiau corfforaethol yn uchel eu proffil, ac maent yn cloriannu blaenoriaethau tymor canolig i dymor hir y Cyngor fel y’u nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol. Ar hyn o bryd, mae 16 o risgiau corfforaethol ar ein Cofrestr Risg a fyddai’n cael effaith trawsadrannol ledled y Cyngor. Ochr yn ochr â hyn, mae’r risgiau sy’n fwy perthnasol i’n gwasanaethau yn cael eu hadnabod a’u monitro fel rhan o’n Cynlluniau Gwasanaeth.

 

Mae Grŵp Rheoli Risg Corfforaethol wedi cael ei sefydlu i gefnogi’r prosesau o adnabod, asesu a monitro’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor. Er bod y grŵp yn canolbwyntio ar y Gofrestr Risg Corfforaethol, mae hefyd yn gynhorthwy i reolwyr wrth iddynt reoli risgiau i’w gwasanaethau nhw. Mae’r Grŵp Rheoli Risg Corfforaethol yn cyfarfod bob chwarter i adolygu a monitro’r Gofrestr Risg a pharatoi adroddiadau cyson i’r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet ar statws y risgiau, yn ogystal â chynnig argymhellion ar sut gallwn ni gryfhau ein dull o ymdopi â risg.  

 

 

* Dogfennau Saesneg yn unig