Datblygu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol
Mae'r camau gweithredu a nodir yn CCB eleni’n adlewyrchu'r hyn y mae trigolion, partneriaid, aelodau etholedig a staff wedi'i ddweud wrthym drwy wahanol weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y flwyddyn.
Bydd yr ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Cynllun drafft hwn yn siapio ein Cynllun terfynol ar gyfer 2022-2023.
Mae'r camau gweithredu hefyd yn adlewyrchu ein Strategaeth Adfer, canfyddiadau gwaith ein rheoleiddwyr, y wybodaeth yn ein Hadroddiad Blynyddol (2020/21), perfformiad y Cyngor yn y cyd-destun cenedlaethol, ein rhaglen drawsnewid ac Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a thrydydd sector eraill yn rhan o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae amcanion lles y Cyngor yn cyd-fynd ag Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd y camau gweithredu a nodir yn y CCB hwn yn cyfrannu at y gwaith o’u cyflawni.