Mae’r broses Graffu’n rhoi cyfle i’r cyhoedd i fod yn rhan o weithgareddau’r Cyngor. Mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus mewn cyfarfodydd pwyllgorau Craffu. Mae
Canllaw i Siarad Cyhoeddus yn egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad.
I gofrestru i siarad mewn cyfarfod pwyllgor craffu, llenwch y ffurflen berthnasol isod:
Siarad cyhoeddus - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol
Siarad cyhoeddus - Yr Amgylchedd ac Adfywio
Siarad cyhoeddus - Cartrefi a Chymunedau Diogel
Siarad cyhoeddus - Dysgu a Diwylliant
Siarad cyhoeddus - Byw yn Iach a Gofal Cymdeithasol
Mae gennych hawl i wneud cais i Bwyllgor Craffu ystyried maes gwasanaeth neu fater penodol, yn enwedig os gallai trafodaeth olygu y gellid gwella’r sefyllfa i bobl leol. Os hoffech chi gyflwyno cais, llenwch y ffurflen (Saesneg) Scrutiny Review Topic Suggestion neu gysylltu ag Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu.
Ni fydd y Pwyllgorau Craffu’n medru ystyried trafod unrhyw fater sydd eisoes yn cael ei adolygu neu ei gloriannu’n fewnol gan y Cyngor, neu’n cael ei adolygu’n allanol gan gorff allanol ar y pryd.
Mae’n bwysig hefyd i chi fod yn ymwybodol fod materion sy’n ymwneud ag achosion penodol sy’n mynd drwy Broses Gwyno’n Cyngor, a materion disgyblu/achwyniad, y tu hwnt i gwmpas y Pwyllgorau Craffu.
Petai’r Pwyllgor yn cytuno i ystyried y mater, fe’ch hysbysir o drefn y broses a dyddiad y cyfarfod.
Pryd bynnag mae’n bosibl, dylai aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno cyflwyno achos neu siarad â Phwyllgor Craffu ar unrhyw adeg gysylltu ag Adran Gwasanaethau Pwyllgor a Chraffu neu’r Cadeirydd perthnasol cyn y cyfarfod i drafod y mater.
Er mwyn gwella’r modd y mae adran Craffu yn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, mae’r
Cyngor wedi mabwysiadu egwyddorion (uniaith Saesneg) Participation Cymru, 10 Principles for Public Engagement.