Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
Mae penderfyniadau ar faterion allweddoll eraill, megis gosod y Gyllideb, yn aros yn nwylo’r Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal bob pythefnos, ac yn cael eu cadeirio gan yr Arweinydd. Yn ystod y cyfarfodydd yma, caiff materion eu codi a’u trafod, ac yna caiff penderfyniadau eu gwneud.
Cyn y cyfarfod, anfonir agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet i bob Aelod o’r Cyngor.
Mae’r Cabinet yn gweithredu Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw sy’n datgelu’r Adroddiadau y bydd aelodau’n disgwyl eu gweld yn codi mewn gwahanol Gyfarfodydd Cabinet dros y flwyddyn.
Drannoeth cyfarfod y Cabinet, anfonir gwybodaeth am benderfyniadau a wnaethpwyd at holl Aelodau’r Cyngor, ynghyd â chopïau o’r adroddiadau y seiliodd y Cabinet eu penderfyniadau arnynt. Mae gan bob cynghorydd hawl wedyn gyflwyno eitem "alwadwy" i graffu arni ymhellach. Mae pum pwyllgor craffu’n gweithredu i ymateb i’r ceisiadau yma.