Cost of Living Support Icon

Cytundebau Gefeillio a Chyfeillgarwch

Cytundebau Gefeillio a Chyfeillgarwch: Gall perthynas a threfi gefeillio fod â manteision eang iddi, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol go iawn.

 

Cytundebau Gefeillio

Mae gan Fro Morgannwg Gytundebau Gefeillio gyda:

 

Rheinfelden, Yr Almaen

 

Mouscron, Gwlad Belg

 

Fécamp, Ffrainc

 

 

Cyswllt Cytundeb Gefeillio:

 

Cytundebau Cyfeillgarwch

Mae gennym hefyd Gytundebau Cyfeillgarwch gyda:

 

Jurbarkas, Lithwania

 

Neumarkt, Yr Eidal

 

Putnok, Hwngari

 

 

 

Byddai'r Cyngor yn hapus i gynorthwyo a chefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol i feithrin cysylltiadau â'n trefi gefeillio. Gallai'r cymorth a'r gefnogaeth honno gynnwys:

  • Darparu manylion cyswllt allweddol yn ein trefi gefeillio

  • Cyfeirio sefydliadau a grwpiau at ffynonellau cyllid posibl, fel y gall cysylltiadau ddatblygu a thyfu

Nod y trefniadau gefeillio yw meithrin perthynas ryngwladol drwy ganolbwyntio ar weithgareddau a chyfnewid sy'n hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon ac addysg.

 

Mae'n bosibl i'r Cyngor, tra'n methu ariannu gweithgarwch gefeillio yn uniongyrchol, roi cyngor ac arweiniad i alluogi amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau sydd â diddordeb i:

  • Archwilio dichonoldeb a / neu bosibilrwydd teithio ar y cyd i’n trefi gefeillio

  • Archwilio dichonoldeb a / neu bosibilrwydd ymweliadau â Bro Morgannwg gan grwpiau a sefydliadau o fewn ein trefi gefeillio

  • Darparu dyddiadau a manylion digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio ym Mro Morgannwg er mwyn caniatáu i grwpiau gysylltu rheiny ag ymweliadau gefeillio posib

  • Cyfeirio grwpiau at ffynonellau arian posibl i gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu ymweliadau â Bro Morgannwg ac o Fro Morgannwg