Cost of Living Support Icon

Y Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw 

Caiff y cynllun gwaith ymlaen llaw ei gydlynu gan Swyddfa’r Cabinet. Mae’n cynnwys trosolwg Strategol blynyddol a chynllun chwarterol o eitemau penodol y byddai’r Tîm Rheoli a’r Cyngor Llawn yn debygol o’u hystyried.

 

Caiff y cynlluniau eu diweddaru’n gyson, ac maent yn cynnwys:

  • Amserlen i ystyried y gyllideb ac unrhyw gynlluniau sy’n ffurfio rhan o’r fframwaith polisi ac sydd angen cymeradwyaeth gan y Cyngor, a pha gorff fydd yn eu hystyried;
  • Amserlen i ystyried unrhyw gynlluniau y mae’r Cabinet yn gyfrifol amdanynt;
  • Unrhyw fater unigol y mae’n fwriad gan y Cyngor ymgynghori arno cyn gwneud penderfyniad, ac amserlen yr ymgynghoriad a gwneud y penderfyniad. 

 

Y Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw Blynyddol Strategol

Mae’r Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw Blynyddol Strategol yn cyd-redeg â blwyddyn drefol y Cyngor, ac mae’n cynnwys cynlluniau gwaith chwarterol ac adroddiadau diweddaru i’r Cabinet.

 

Mae’r Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw Blynyddol Strategol yn nodi’r polisïau strategol, yr adolygiadau i’r gyllideb a’r amserlen adroddiadau tebygol a fydd yn cael eu cyflwyno dros y flwyddyn. Mae hefyd yn cofnodi rôl bosibl Craffu yn ogystal â’r teitlau a ystyrir gan y Cyngor. Y bwriad yw sicrhau cydberthynas dryloyw rhwng gwaith y Pwyllgorau Craffu a Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor.