Cost of Living Support Icon

John, Gwyn

Gwyn John BEM

 

Cyfeiriad: 

c/o Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Barri

CF63 4RU

 

  • Cartref: 01446 793669
  • Sym: 07984 122308

Plaid:

First Independents Llanilltud

 

Llantwit First Independents

Swyddogaethau yn y Cyngor

Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles 

 

Pwyllgor Ymddeol Yn Gynnar / Dileu Swyddi

Pwyllgor Ymchwilio

Panel Penodi Pwyllgor Safonau

Cyrff Allanol

Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo 

Cyd-Bwyllgor Archifau Morgannwg

 

Presenoldeb mewn Cyfarfodydd 

(O'r Cyfarfod Blynyddol ar 8 Mai 2024 i'r Cyfarfod Blynyddol ar 7 Mai 2025)  

 

 
Penodwyd i'r canlynol yn y Cyfarfod Blynyddol ar 8 Mai 2024Nifer y Cyfarfodydd a gynhaliwyd hyd ymaPresennol Presennol Ymddiheuriad am absenoldeb
Y Cyngor (gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol) 2 2 100%  
Cabinet 7 7 100%  
Ymddeol Yn Gynnar / Dileu Swyddi 4 4 100%  
Ymchwilio        

Presenoldeb Blaenorol mewn Cyfarfodydd

Mai 2023 - Mai 2024

Mai 2022 - Mai 2023

Cofrestr Buddiant

2022-23

Ward: Llanilltud Fawr

Amserau cymorthfeydd

Dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd dydd Sadwrn bob mis rhwng 9.30am a 11.30am. Nid oes angen apwyntiad.

  • Mis Ebrill tan fis Medi: Yr Hen Ysgol, Wine Street, Llanilltud Fawr
  • Mis Hydref tan fis Mawrth: Y Ganolfan Treftadaeth, Neuadd y Dref, Llanilltud Fawr

Manylion bywgraffyddol

 

Etholwyd y Cynghorydd Gwyn John i gynrychioli ward Llanilltud Fawr, sy’n cynnwys Llanfaes, Llanddunwyd, Marcroes, yr A Fawr, Gwersyll Gorllewin Sain Tathan a Picketston.

 

Cafodd y Cynghorydd Gwyn John ei addysg yn ysgol ramadeg y Bont-faen (1956-63). Gweithiodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am 25 mlynedd cyn symud i ddiwydiannau peirianneg a chyflenwi. Treuliodd y rhan fwyaf o’i amser rhydd yn gweithio yn y diwydiant hamdden. Roedd y Cynghorydd John yn aelod o Gyngor Tref Llanilltud Fawr o 1974-79 cyn dychwelyd i faes gwleidyddiaeth yn 1999.

 

Etholwyd ef i Gyngor Bro Morgannwg yn 1999 fel ymgeisydd i’r Ceidwadwyr yn ward Llanilltud Fawr. Ymddiswyddodd o’r Blaid Geidwadol ar 1 Mai 2004 a mynd yn gynghorydd Annibynnol.

 

Safodd Gwyn fel ymgeisydd Annibynnol yn etholiad 2004 a dod ar ben y cyfrif am yr eildro yn ei dref enedigol, Llanilltud Fawr.

 

Ganed Gwyn yn 1945. Mae wedi byw yn Llanilltud Fawr gydol ei oes, y seithfed genhedlaeth o’i deulu yn y drefn. Roedd ei hen dad-cu yn gynghorydd, ac mae ‘Llanilltud Fawr yn ei waed’, meddai. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y gymuned erioed.

 

Etholwyd Gwyn i Gyngor Tref Llanilltud Fawr gyntaf yn 1974, ond ymhen pum mlynedd, ni safodd fel ymgeisydd eto oherwydd bod angen i’w waith gael blaenoriaeth.

 

Gweithiodd i’r Awyrlu yn Sain Tathan am chwarter canrif, ac yn 1989, rhoddwyd Medal Frenhinol Gwasanaeth iddo am ei waith. Bellach, mae’n gweithio yn niwydiant cyflenwadau peirianneg, ac mae’n cyfuno hwn â’i waith dros y Cyngor.