Cost of Living Support Icon

Datganiad o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau

Mae’n ofynnol ar Gyngor Bro Morgannwg i gytuno ar Ddatganiad blynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau, ei gyhoeddi a’i gynnal

 

Mae’r Datganiad o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau’n cofnodi manylion y taliadau penodol mae’n fwriad gan y Cyngor eu gwneud i Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig yn unol â lefelau cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  

 

Ynddo, ceir manylion am gydnabyddiaeth ariannol i’r Aelodau drwy daliad Cyflog Sylfaenol, Hŷn neu Ddinesig, a ffioedd sy’n daladwy i’n Haelodau ni ein hunain ac Aelodau Cyfetholedig statudol. Mae’r Datganiad hefyd yn cynnwys manylion y Lwfansau Gofal, Teithio ac Ymgynnal perthnasol.

 

 

Bydd manylion pob cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau a delir gan y Cyngor bob blwyddyn i bob Aelod ac Aelod Cyfetholedig yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol erbyn 30 Medi.

 

Ceir gwybodaeth bellach hefyd ar wefan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: 

 

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 

 

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol