Cost of Living Support Icon

Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig

 

Mae Adran 5 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cynnwys gofyniad i Awdurdodau Lleol wneud darpariaeth, o fis Ebrill 2012, i bob Aelod wneud Adroddiad Blynyddol gwirfoddol ar eu gweithgareddau a chyhoeddi'r adroddiadau dan sylw. Rhaid i awdurdod lleol hefyd roi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau sydd ganddo ar gyfer cyhoeddi adroddiadau blynyddol yn unol ag Adran 5(3) yr un Mesur.

 

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai Adroddiadau Blynyddol yn helpu i wella dealltwriaeth pobl leol o'r hyn a wnaeth eu Cynghorydd Lleol, a'r rôl bwysig y gwnaethon nhw ei chyflawni.  Bydd defnyddio Adroddiadau Blynyddol yn galluogi Aelodau i dynnu sylw at sut maen nhw'n ymgymryd â'u rôl(au) etholedig, a’u datblygiad proffesiynol, yn ogystal â sut maen nhw'n cynrychioli ac yn gwasanaethu eu cymunedau.

 

Er bod y Mesur yn gofyn i Gynghorau sicrhau bod y cyfleuster hwn ar gael i'w Aelodau, doedd dim rheidrwydd ar Aelodau unigol i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol.  Cydnabyddir hefyd, er y gellir ystyried Adroddiadau Blynyddol fel modd o wella cyfathrebu rhwng Aelodau Etholedig a'r cyhoedd, dim ond un o blith nifer o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i Aelodau ydyn nhw.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Broses Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig ar gael yn Canllawiau Statudol Mesur Llywodraeth Leol 2011 - Adran 5 Adroddiadau Blynyddol - Mai 2013.

 

  • Beth yw'r dyletswyddau sydd wedi eu gosod ar Awdurdod Lleol?
     

    Mae'n rhaid i Awdurdod Lleol wneud y trefniadau sy'n galluogi ei aelodau i lunio adroddiadau blynyddol. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ddweud wrth ei aelodau sut ac erbyn pryd i wneud hyn.

     

    Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn adran 8 et seq, yn darparu ar gyfer Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (PGD) yn cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd fel y'u diffinnir yn adran 9. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth a chyngor i aelodau i'w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau, a byddai trefniadau’r broses adrodd flynyddol yn dod o fewn hyn.

     

    Mae'r Mesur yn atal y PGD rhag rhoi cymorth a chyngor i aelod ynghylch gweithredu mewn perthynas â swyddogaethau anweithredol yr aelod hwnnw, ond ni fyddai cynhyrchu adroddiad blynyddol, hyd yn oed pe bae’n cyfeirio at weithgareddau anweithredol yr aelod, yn swyddogaeth anweithredol ynddi ei hun.

  • Beth yw'r fenter ar gyfer hysbysebu?

    Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn darparu templed adroddiad fel dogfen Word i bob Aelod Etholedig ddiwedd Ebrill bob blwyddyn. Bydd y templed adroddiad hefyd ar gael i Aelodau drwy'r flwyddyn drwy fewnrwyd mewnol y Cyngor (MemberNet). Bydd hyn wedyn yn galluogi Aelodau Etholedig i gwblhau drafft cychwynnol o'u hadroddiad am y cyfnod o 1 Mai y flwyddyn flaenorol tan 30 Ebrill y flwyddyn bresennol.

     

    Gofynnir i Ddrafftiau Cychwynnol gael eu dychwelyd i'r Gwasanaethau Democrataidd erbyn 31 Mai. Un o’r agweddau pwysicaf ar y templed yw bod Cynghorwyr yn cael eu hannog i ddarparu cymaint neu gyn lleied o wybodaeth o fewn y terfyn 500 gair. Bydd aros o fewn terfyn cyfrif y geiriau yn rhoi rhywfaint o gysondeb ac yn cynnal y ffocws ar faterion allweddol adroddiad yr Aelod. Bydd hefyd yn galluogi rheoli’r costau cyfieithu angenrheidiol wrth gyhoeddi'r adroddiadau hyn.

     

    Bydd negeseuon atgoffa yn cael eu hanfon gan y Gwasanaethau Democrataidd i ddychwelyd adroddiadau drafft cychwynnol wedi'u cwblhau. Tybir na fydd unrhyw Aelod Etholedig nad yw’n dychwelyd adroddiad erbyn 31 Mai yn cwblhau adroddiad blynyddol am y cyfnod.

     

    Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn adolygu'r adroddiad ac yn cwblhau unrhyw fformatio cyn ei ddychwelyd i'r Aelod Etholedig i'w gymeradwyo. Gellir adolygu copi o'r Adroddiadau Blynyddol terfynol gan yr Arweinwyr Grwpiau (os oes angen).

     

    Bydd yr adroddiadau cymeradwy yn cael eu cyfieithu a bydd dolenni at y ddwy ddogfen o’r dudalen 'Chwilio Cynghorwyr' ar wefan Cyngor Bro Morgannwg erbyn 01 Medi bob blwyddyn.  

Gweld Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig