Cost of Living Support Icon

Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned

Rydym yn Gyngor rhagweithiol sy’n gweithio mewn partneriaeth i wneud y mwyaf o les corfforol a meddyliol pobl i sicrhau eu bod yn ddiogel gartref ac yn y gymuned ac y gallant wneud dewisiadau sy’n cefnogi eu lles cyffredinol. Rydym yn Gyngor sy’n sicrhau y caiff pobl y cyngor, y gofal a’r cymorth angenrheidiol yn ôl yr angen. 

 Amcran tri:  Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned

 

Mae'r Amcan hwn yn dwyn ynghyd ystod o weithgarwch i sicrhau bod cyngor, gofal a chymorth ar gael pan fydd eu hangen ar bobl, bod pobl yn teimlo'n ddiogel a'n bod yn cefnogi iechyd a lles pobl.  

 

Byddwn ni'n sicrhau bod pobl yn gallu cael cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys, tai, bwyd, costau ynni, budd-daliadau a chyngor ariannol.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal ac ymyrraeth gynnar i wella a chynnal lles ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd.   Byddwn yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd ar waith, yn enwedig drwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro  a chydnabod hefyd y rôl hanfodol sydd gan dai ar les pobol. 

 

Bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo dewisiadau actif ac iach drwy weithgareddau hamdden a diwylliannol ac i annog pobl i ystyried sut mae eu dewisiadau trafnidiaeth yn effeithio ar eu hiechyd a’r amgylchedd.   Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a’u cadw’n ddiogel ac i roi cymorth i bobl o bob oed i gynnal eu lles corfforol a meddyliol. 

 

Ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol

 

Ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol yw:

  •  

    Annog pobl o bob oed i fod â ffyrdd actif ac iach o fyw sy’n hyrwyddo lles corfforol a meddyliol gwell

  • Rhoi mwy o gyfleoedd beicio a cherdded a datblygu ystod o opsiynau teithio i annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir

  •  

    Hyrwyddo gweithgareddau hamdden, celfyddydol a diwylliannol sy’n bodloni ystod eang o anghenion

  • Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor 

  • Rhoi gofal a chymorth i blant a theuluoedd mewn angen sy’n adlewyrchu eu cryfderau a’u hamgylchiadau unigol

  • Rhoi gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i oedolion mewn angen

  • Gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl amserol a phriodol

  • Cyflawni ein dyletswyddau diogelu i amddiffyn pobl rhag niwed

  • Gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cymunedau cydlynol ac i hyrwyddo diogelwch cymunedol

  • Cadw pobl yn ddiogel drwy gynllunio cadarn a gwydn at argyfyngau a gwasanaethau rheoliadol sy’n diogelu’r cyhoedd, defnyddwyr a busnesau

  • Cynyddu nifer y tai hygyrch a fforddiadwy o safon uchel sydd ar gael drwy weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r angen am dai

  • Rhoi cyngor a chymorth tai er mwyn atal digartrefedd

 

 

Camau Gweithredu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol

 

Yn 2023-24 byddwn yn:

 

  1. Cydlynu ymateb sy’n cefnogi ein trigolion, busnesau, y trydydd sector a staff y Cyngor gydag effaith yr argyfwng costau byw, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi bwyd, tanwydd a mislif drwy waith gydag ysgolion, amrywiaeth o fentrau cymunedol a gweinyddu cynlluniau cyllido.     
          
  2. Rhoi cyngor, cymorth a gwybodaeth i drigolion ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys tai, dyled, tlodi tanwydd a chostau ynni, budd-daliadau, cyflogaeth a hyfforddiant drwy nifer o wasanaethau gan gynnwys y siop un stop, y Tîm Cyngor Ariannol a'r Tîm Budd-daliadau.  

  3. Gweithredu i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed rhag gweithgareddau benthyca arian anghyfreithlon a sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag risgiau hylendid bwyd gan gydnabod effaith bosibl yr argyfwng costau byw.

  4. Gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth, partneriaid yn y trydydd sector a darparwyr cymorth i ailsefydlu aelwydydd agored i niwed i Fro Morgannwg a darparu'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

  5. Gweithio mewn partneriaeth â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynd i’r afael â’r annhegwch iechyd, hyrwyddo brechu a sgrinio ac i weithredu'r Cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Dda gan ganolbwyntio'n benodol ar gyrraedd pobl yn ein cymunedau mwy difreintiedig.

  6. Gweithio mewn partneriaeth i hwyluso a hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol ar gyfer datblygu chwarae a chwaraeon, hamdden, a gwasanaethau celfyddydau a diwylliannol gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, hyrwyddo iechyd a lles a meysydd lle cafwyd cyfraddau cyfranogiad isel yn y gorffennol.  

  7. Parhau i ehangu'r cynnig gan ein llyfrgelloedd yn eu rôl fel hybiau o fewn y gymuned.

  8. Cryfhau'r trefniadau partneriaeth presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn benodol drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a gan weithio drwy Gynghrair y Fro i ddatblygu a gweithredu mwy o fodelau gofal integredig  gan gynnwys diwallu anghenion llety.

  9. Ailffocysu'r ffordd y caiff gofal cartref ei roi i wella llais a rheolaeth yr unigolyn dros ei drefniadau gofal drwy ehangu 'Eich Dewis'.

  10. Gweithio gydag arweinwyr/ partneriaid cymunedol a defnyddio’r profiad a gafwyd drwy’r gwaith yn Llanilltud Fawr i adolygu a thrawsnewid yr ystod o gymorth sydd ar gael i bobl hŷn o fewn eu cymuned.  

  11. Gweithio'n gydgynhyrchiol gyda phlant a'u teuluoedd drwy fodel sy'n seiliedig ar gryfderau i wella canlyniadau ac i wella lles. 

  12. Cyflawni blaenoriaethau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol,gan sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a'u hecsploetio.

  13. Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a gwella diogelwch cymunedol gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol cadarnhaol a diogelwch cymunedol gan sicrhau ein bod yn diogelu ac yn cefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan gynnwys gwaith ar drais domestig, trais rhywiol a thrais difrifol.

  14. Gweithio gyda phartneriaid i weithredu Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i wella canlyniadau pobl ifanc.

  15. Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gaffael ac adeiladu tai cyngor gan gynnwys 138 o gartrefi Cyngor newydd ar chwe safle ledled y Fro.

  16. Gweithredu Strategaeth Dai Leol i fynd i'r afael â’r angen tai cyfredol ac arfaethedig ac i gynyddu nifer y tai hygyrch a fforddiadwy o ansawdd da sydd ar gael.

  17. Creu Strategaeth Tai Pobl Hŷn i sicrhau'r ansawdd bywyd gorau ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn y Fro a galluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy'n bosib yn ddiweddarach yn eu bywyd

  18. Gweithio gyda phartneriaid i atal a lleihau digartrefedd a darparu cymorth tai a chymorth cysylltiedig gan gynnwys manteisio i’r eithaf ar y Grant Atal Digartrefedd i gynnal tenantiaethau, ehangu'r cyflenwad llety dros dro a lleihau'r defnydd o lety gwely a brecwast