Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Trais Difrifol
Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach rhwng:
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn ymrwymedig i greu Bro Morgannwg ddiogelach i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn ogystal â’r rhai sy’n ymweld â hi.
Ein cenhadaeth yw lleihau troseddu, anhrefn, ac ofn troseddu trwy gydweithrediad cryf â sefydliadau statudol, gwirfoddol a chymunedol.
Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i weithredu strategaethau effeithiol a chyflawni mentrau sy'n gwella diogelwch cymunedol. Gyda chymorth cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Llywodraeth Cymru.
Pwy ydym ni (llyfryn)
Llyfryn Diogelwch Cymunedol
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu tirwedd y Bartneriaeth Bro Ddiogelach. Hynny yw pwy ydym ni, pam rydymyn bodoli, beth yw ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n blaenoriaethau yn ogystal â beth sydd gennym ynei le i'w cyflawni. Mae'r rhain yn bethau nad ydynt yn debygol o newid llawer yn ystod y pum mlynedd nesafac felly mae'r Ddogfen Strategaeth hon yn cwmpasu'r cyfnod 2023-2028.
Strategaeth Partneriaeth Bro Ddiogelach 2023- 2028
Mae partneriaeth Bro Ddiogelach yn croesawu rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n bwysig bod adroddiadau'n cael eu gwneud drwy'r sianel briodol fel y gellir gweithredu ar unwaith pan fo angen, a gellir dyrannu adnoddau ataliol yn seiliedig ar dueddiadau a phatrymau.
Cysylltu â Chyngor Bro Morgannwg i roi gwybod:
Ceir wedi'u gadael
Tipio anghyfreithlon
Parcio anghyfleus / anghyfreithlon
Sbwriel
Sŵn o dafarndai / clybiau
Cymdogion swnllyd
Anifeiliaid heb fod dan reolaeth
Torri Gorchymyn neu Is-ddeddf Diogelu Mannau Cyhoeddus
Cysylltu â Heddlu De Cymru i roi gwybod:
Difrod Troseddol / fandaliaeth
Camddefnyddio a gwerthu cyffuriau
Graffiti
Brawychu / aflonyddu / cam-drin geiriol
Ymddygiad stwrllyd (gan gynnwys yfed ar y stryd)
Niwsans cerbydau a defnydd amhriodol o gerbydau
Aflonyddwch ymysg pobl ifanc
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Partneriaeth Bro Ddiogelach, dilynwch: