Cost of Living Support Icon

Teledu Cylch Cyfyn

Mae'r camerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu monitro 24/7 yn ystafell reoli Cyngor Caerdydd

 

Pwrpas y system teledu cylch cyfyng yw:

 

  • Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo wrth ganfod digwyddiadau troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Lleihau ofn ynghylch trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Gwella diogelwch trigolion, ymwelwyr a’r gymuned fusnes sy’n defnyddio'r cyfleusterau a gwmpesir gan y cynllun teledu cylch cyfyng neu’n ymweld â'r ardaloedd yn y Fro a gwmpesir gan y cynllun teledu cylch cyfyng.

  • Cynorthwyo'r gwasanaethau brys i leoli pobl agored i niwed sydd ar goll.

  • Atal troseddu a chynorthwyo wrth ganfod troseddau

  • Cynorthwyo'r Cyngor wrth atal a chanfod achosion o dipio anghyfreithlon a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â gorfodi ledled y Fro

 

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd yma.

 

Lleoliadau Camerâu Teledu Cyfyng

 

Camerâu teledu cylch cyfyng y gellir eu defnyddio

Mae gan gyngor Bro Morgannwg gamerâu teledu cylch cyfyng y gellir eu defnyddio. Mae'r camerâu hyn yn unedau gwyliadwriaeth symudol sydd wedi'u cynllunio i’w gosod yn gyflym a’u hadleoli’n rhwydd, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ymateb i ofynion monitro dros dro neu newidiol.

 

Grŵp Gweithredol Teledu Cylch Cyfyng

Mae'r gwaith teledu cylch cyfyng yn cael ei oruchwylio gan y Grŵp Gweithredol Teledu Cylch Cyfyng a sefydlwyd yn 2023. Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am sicrhau bod rhannu gwybodaeth, casglu a rhannu tystiolaeth a chyfeiriad a datblygiad teledu cylch cyfyng yn weithredol ac yn effeithiol. 

 

  • Mewn hawliau

    Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen.

     

    Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol nes i unrhyw gamgymeriadau gael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.

     

    Os hoffech arfer unrhyw un neu rai o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.

     

    Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni:

     

    Bro Morgannwg 

     

    Neu ysgrifennwch atom:

    Civic Offices,

    Holton Road,

    Y Barri,

    CF63 4RU

     

    ARC Caerdydd

     

    Neu ysgrifennwch atom:   

    Cardiff ARC,

    County Hall,

    Atlantic Wharf,

    Caerdydd,

    CF10 4UW  

 

Gofyn am recordiadau teledu cylch cyfyng

Gallwch wneud cais am recordiadau teledu cylch cyfyng am amryw o resymau. Gellir gwneud hyn drwy: 

  • a company representing a member of the public. For example, insurance companies or solicitors.

  • aelod o’r cyhoedd,

  • yr heddlu, neu

  • gwmni sy'n cynrychioli aelod o'r cyhoedd. Er enghraifft, cwmnïau yswiriant neu gyfreithwyr

Pa mor hir rydym yn cadw recordiadau TCC?

Nid ydym yn cadw recordiadau am fwy na 31 diwrnod. Caiff y recordiadau eu dileu'n awtomatig ar ôl i’r 31 diwrnod fynd heibio, oni bai ein bod wedi derbyn cais ffurfiol am y recordiadau, neu eu bod yn berthnasol i ymchwiliad parhaus. 

 

Nid ydym yn berchen ar yr holl gamerâu teledu cylch cyfyng ym Mro Morgannwg. Efallai na fyddwn bob amser yn gallu cael mynediad at y recordiadau. 

 

Pa wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi? 

Ni fyddwn yn chwilio am y recordiadau oni bai bod y dogfennau perthnasol wedi'u cyflwyno.

Bydd angen i chi hefyd roi cymaint o wybodaeth â phosibl, fel:

  

  • y dyddiad a'r amser penodol,

  • y lleoliad, a

  • disgrifiad ohonoch eich hun a'r digwyddia

  • Gwneud cais am recordiadau ohonoch chi'ch hun
    Mae gennych hawl i wneud cais am recordiadau TCC ohonoch eich hun. Gallwch wneud hyn ar lafar neu’n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r recordiadau i chi. Er enghraifft, os oes modd adnabod unigolion eraill yn y recordiadau

     

    Sut i wneud cais

     

    Gallwch ofyn am luniau teledu cylch cyfyng drwy lenwi'r ffurflen gais teledu cylch cyfyng a'i hanfon atom. 

     

  • Gwneud cais am recordiadau ar ran rhywun arall 

    Mae gennych hawl i wneud cais am recordiadau teledu cylch cyfyng ar ran rhywun arall. Rhaid i chi gael caniatâd a phrawf adnabod gan y person (gwrthrych y data).

     

     

    Gallwch wneud cais ar lafar neu’n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r recordiadau i chi. Er enghraifft, os oes modd adnabod unigolion eraill yn y recordiadau.

     

     

     

     

     

  • Gwneud cais am recordiadau ar gyfer achos cyfreithio  

    Gall cwmnïau yswiriant a chyfreithwyr wneud cais am recordiadau ar ran y cleient y maent yn ei gynrychioli. Rhaid i chi gael caniatâd a phrawf adnabod gan y cleient (gwrthrych y data)

     

  • Gwneud cais am recordiadau dan Ddeddf Diogelu Data 2018  

    Gall yr heddlu wneud cais am recordiadau TCC dan Atodlen 2, Rhan 1 Paragraff 2 er mwyn: 

     

    • atal a chanfod trosedd,
    • dal neu erlyn troseddwyr,
    • asesu neu gasglu unrhyw dreth neu doll, neu
    • gyflawni gwaith gorfodi o natur debyg.

     

 

atal a chanfod trosedd,

  • dal neu erlyn troseddwyr,
  • asesu neu gasglu unrhyw dreth neu doll, neu
  • gyflawni gwaith gorfodi o natur debyg.