Cymorth i ddynion
Mae cam-drin domestig yn ymwneud â phŵer a rheolaeth un person dros un arall, a gall ddigwydd i unrhyw un.
Mae Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn cynnig cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef o gam-drin domestig gan bartner.
Maen nhw’n darparu cymorth a chefnogaeth gyfrinachol i ddynion y mae cam-drin domestig yn effeithio arnyn nhw i ddod o hyd i'r gwasanaethau gorau sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio diogelwch, cyfeirio i wasanaethau ledled Cymru, cyngor a chymorth emosiynol.
Gofynnwch am help nawr
Ffoniwch Linell Gymorth Dyn Cymru am gymorth a chyngor ar 0808 801 0321 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm), neu e-bost i:
Dyn@saferwales.com
Am gymorth 24 awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.