Cost of Living Support Icon

Cam-drin Domestig

Beth yw Cam-drin Domestig

Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach wedi ymrwymo i ddarparu dull proffesiynol a chyson i ddioddefwyr Cam-drin Domestig.

 

Mae rhai pobl yn meddwl bod cam-drin domestig yn ymwneud â thrais corfforol yn unig.

 

Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dioddef blynyddoedd o gam-drin domestig lle mae trais yn brin iawn neu'n absennol ond yn profi cam-drin geiriol ac emosiynol parhaus.

 

Anaml y mae cam-drin domestig yn ddigwyddiad untro ond mae tuedd iddo waethygu dros amser a gall arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.

 

Beth yw’r mathau o gam-drin domestig?

Y mathau o gam-drin domestig yw:

  • cam-drin corfforol
  • seicolegol
  • meddyliol
  • emosiynol
  • cam-drin rhywiolstelcio, aflonyddu neu seiberstelcio
  • cam-drin economaidd neu gam-drin ariannolbygythiadau
  • rheolaeth drwy orfodaeth

Rheolaeth Drwy Orfodaeth 

Yn 2015, o dan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (Deddf 2015) daeth rheolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas agos neu deuluol yn drosedd.

 

Os ydych chi’n cael eich cam-drin fel hyn gallwch roi gwybod amdano i’r heddlu. Mae'r drosedd yn cario uchafswm o 5 mlynedd o garchar, dirwy neu'r ddau.

 

Gall ymddygiad gorfodi a rheoli barhau ac yn aml gynyddu pan fydd perthynas yn dod i ben, neu mewn achosion lle nad yw'r dioddefwr yn byw gyda'r troseddwr mwyach. Yr enw am hyn yw 'cam-drin ar ôl gwahanu'.

 

Yn 2023, cafodd gwelliant ei wneud i ddiffiniad "cysylltiedig yn bersonol" yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr i ddileu’r gofyniad "byw gyda'i gilydd". Mae hyn yn golygu y gallwch nawr ddwyn cyhuddiadau am reolaeth drwy orfodaeth, hyd yn oed os nad yw'r dioddefwr a'r troseddwr mewn perthynas neu'n byw gyda'i gilydd mwyach.

 

Beth yw rheolaeth drwy orfodaeth?

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn disgrifio ystod o ymddygiadau sy'n caniatáu i rywun ennill neu gadw rheolaeth ar bartner, cynbartner neu aelod o'r teulu.

 

Mae’r ymddygiad canlynol yn enghreifftiau cyffredin o reolaeth drwy orfodaeth:

  • isolating you from your friends and family
  • eich arwahanu oddi wrth eich ffrindiau a’ch teulu

  • rheoli faint o arian sydd gennych a sut rydych yn ei wario

  • monitro eich gweithgareddau a’ch symudiadau

  • eich bychanu, galw enwau arnoch neu ddweud wrthych eich bod yn ddiwerth

  • bygwth niweidio neu eich lladd chi neu eich plentyn

  • bygwth cyhoeddi gwybodaeth amdanoch neu roi gwybod amdanoch i’r heddlu neu’r awdurdodau

  • difrodi eich eiddo neu nwyddau’r cartref

  • eich gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd troseddol neu gam-drin plant

Gall rhai o’r ymddygiadau a nodir yn y rhestr hon fod yn droseddau eraill yn ogystal â rheolaeth drwy orfodaeth, felly mae’n bosib arestio’r unigolyn sy’n eich cam-drin am fwy nag un drosedd am yr un ymddygiad. Er enghraifft, petai’r unigolyn sy’n eich cam-drin yn torri eich ffôn fel rhan o’r rheolaeth drwy orfodaeth yna mae’n bosib ei arestio a’i gyhuddo o reolaeth drwy orfodaeth ac am ddifrod troseddol.

 

Rhoi gwybod am reolaeth drwy orfodaeth i’r heddlu

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd. Os ydych chi’n cael eich cam-drin fel hyn gallwch roi gwybod amdano i’r heddlu. Efallai y bydd yr heddlu yn rhybuddio’r unigolyn sy’n eich cam-drin neu efallai y byddant yn eu harestio am gyflawni trosedd. Os bydd digon o dystiolaeth gan yr heddlu byddant yn cyfeirio’r mater at Wasanaeth Erlyn y Goron.

 

Gall y Gwasanaeth ddechrau achos troseddol yn erbyn yr unigolyn sy’n eich cam-drin. Os cânt eu canfod yn euog o gyflawni trosedd gellir dedfrydu’r unigolyn dan sylw i hyd at 5 mlynedd yn y carchar neu eu gorfodi i dalu dirwy neu’r ddau.

 

Gall y llys hefyd lunio gorchymyn atal i’ch amddiffyn. Gall y llys lunio gorchmynion amddiffyn hyd yn oed os yw’r unigolyn sy’n eich cam-drin yn cyfaddef eu bod yn euog, os cânt eu heuogfarnu (eu barnu’n euog) hyd yn oed os cânt eu rhyddfarnu neu beidio eu cael yn euog o gyflawni’r drosedd. Gorchymyn llys yw gorchymyn atal sy’n gwahardd yr unigolyn sy’n eich cam-drin rhag gwneud rhai pethau megis cysylltu â chi neu ddod i’ch gweithle neu eich cartref. Mae mynd yn groes (torri) i orchymyn atal yn drosedd.

 

Gall rheolaeth drwy orfodaeth gynnwys ystod o droseddau gan gynnwys ymosod, treisio, bygythiadau i ladd, byrgleriaeth a difrod troseddol. Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn destun unrhyw drais corfforol neu ddifrod i’ch eiddo.

 

Gallwch roi gwybod i’r heddlu am bopeth sydd wedi digwydd a bydd yr heddlu yn nodi pa droseddau a allai fod wedi’u cyflawni. Os ydych wedi bod yn destun troseddu treisgar mae’n bosib y gallwch hawlio iawndal am anafiadau troseddol.

 

Tystiolaeth o reolaeth drwy orfodaeth

Gwaith yr heddlu yw ymchwilio i unrhyw adroddiadau am reolaeth drwy orfodaeth a chasglu tystiolaeth. Efallai y gallwch helpu’r heddlu drwy gyflwyno copïau o e-byst, negeseuon testun neu recordiadau neges llais, ffotograffau o anafiadau a difrod i eiddo.

 

Efallai y gallwch gyflwyno tystiolaeth o gam-drin ariannol drwy ddangos eich cyfriflenni banc neu mae’n bosib y byddwch wedi cadw dyddiadur o’ch profiadau o ddydd i ddydd. Efallai y gallwch ddangos eich bod wedi colli cysylltiad â ffrindiau ac aelodau o’r teulu, wedi gadael eich gwaith neu roi’r gorau i glybiau a gweithgareddau eraill.

 

Mae’n bosib y bydd eich cofnodion meddygol yn dangos bod yr unigolyn sy’n eich cam-drin yn dod gyda chi i apwyntiadau. Mae’n ddigon cyffredin i unigolion sy’n cam-drin gwneud neu fygwth gwneud honiadau ffug ynghylch eu dioddefwyr i’r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau mewnfudo neu i ffrindiau a theulu. Mae’r bygythiadau hyn yn rhan o’r rheolaeth drwy orfodaeth a gallwch hefyd roi gwybod am y bygythiadau i’r heddlu.

 

Gallwch roi gwybod am reolaeth drwy orfodaeth i’r heddlu hyd yn oed os nad oes unrhyw dystiolaeth arall gennych. Eich datganiad yw’r dystiolaeth yn yr achos.