Cost of Living Support Icon

Meithrin Perthynas Amhriodol

Beth yw Meithrin Perthynas Amhriodol?

Meithrin Perthynas Amhriodol yw pan fydd rhywun yn datblygu cysylltiad â phlentyn, person ifanc neu oedolyn sydd mewn perygl er mwyn gallu eu cam-drin a'u cam-drafod i wneud pethau. Mae'r mathau o gam-drin fel arfer yn cynnwys cam-drin rhywiol ac ariannol.

 

Mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhai sy’n gwneud hyn yn cuddio eu gwir fwriadau a gallan nhw dreulio amser hir yn ennill ymddiriedaeth yr unigolyn.

 

Ar ôl iddyn nhw sefydlu ymddiriedaeth, byddan nhw’n cam-fanteisio ar y berthynas drwy ynysu'r unigolyn oddi wrth ffrindiau neu deulu a gwneud iddyn nhw deimlo'n ddibynnol arnynt.

 

Byddan nhw’n defnyddio unrhyw fath o bŵer neu reolaeth i wneud i’r unigolyn gredu nad oes unrhyw ddewis ond gwneud yr hyn maen nhw ei eisiau.

 

Gall y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol gyflwyno 'cyfrinachau' fel ffordd o reoli neu i ddychryn. Weithiau byddan nhw’n blacmelio, neu'n gwneud i'r unigolyn deimlo cywilydd neu’n euog, i'w hatal rhag dweud wrth unrhyw un am y cam-drin.

 

Gall plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gael eu trin gan ddieithryn neu rywun maen nhw'n ei adnabod – er enghraifft aelod o'r teulu, ffrind neu weithiwr proffesiynol.

 

Gall y bobl hyn fod yn ddynion neu'n fenywod a gallan nhw fod o unrhyw oedran.

 

Nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn deall eu bod yn destun perthynas amhriodol, na bod yr hyn sydd wedi digwydd yn gamdriniaeth.

 

 

Sut mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd 

Mae’r bobl sy’n meithrin perthynas amhriodol yn gwneud hyn trwy:

  • esgus bod yn rhywun nad ydyn nhw, er enghraifft dweud eu bod yr un oed ar-lein
  • cynnig cyngor neu ddealltwriaeth
  • prynu anrhegion
  • rhoi sylw i'r plentyn
  • defnyddio eu sefyllfa broffesiynol neu enw da
  • mynd â nhw ar deithiau, gwibdeithiau neu wylia

Arwyddion o feithrin perthynas amhriodol: 

Nid yw arwyddion o feithrin perthynas amhriodol bob amser yn amlwg ac efallai y byddan nhw’n gudd.

 

Arwyddion i gadw llygad amdanyn nhw:

  

  • Oes ganddyn nhw bartner hŷn?

  • Ydyn nhw'n gyfrinachol ynglŷn â sut maen nhw'n treulio eu hamser?

  • Oes ganddyn nhw arian neu bethau newydd heb esboniad?

  • Ydyn nhw'n tynnu'n ôl a neu'n cynhyrfu?

 

Cyngor a Chymorth

Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)  

Elusen sy'n gweithio i atal cam-drin a helpu plant a'u teuluoedd pan fydd cam-drin wedi digwydd. 

  • 0808 800 5000 

 

Cymorth i Ddioddefwyr 

Elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i helpu unrhyw un y mae trosedd yn effeithio arnyn nhw – nid yn unig dioddefwyr a thystion, ond ffrindiau, teulu ac unrhyw un sy'n cael ei ddal yn y canlyniad.

 

  • 0808 168 9111