Cost of Living Support Icon

Priodasau Dan Orfod

Priodas dan orfod yw unrhyw briodas lle nad yw un neu'r ddau berson yn cydsynio i'r briodas neu nad oes modd iddyn nhw gydsynio, ac mae pwysau, neu gam-drin yn cael ei ddefnyddio i’w gorfodi i briodi

Mae hefyd pan fydd unrhyw beth yn cael ei wneud i orfodi rhywun i briodi cyn troi'n 18 oed, hyd yn oed os nad oes pwysau na chamdriniaeth.

 

Mae priodas dan orfod yn anghyfreithiol yn y DU. Mae'n fath o gam-drin domestig ac yn enghraifft ddifrifol o gam-drin hawliau dynol.

 

Gall y pwysau a roddir ar bobl i briodi yn erbyn eu hewyllys fod yn:

  • gorfforol: er enghraifft, bygythiadau, trais corfforol neu drais rhywiol.
  • emosiynol a seicolegol: er enghraifft, gwneud i rywun deimlo fel eu bod yn dod â 'chywilydd' ar eu teulu.

Cam-drin ariannol, er enghraifft cymryd cyflog rhywun, fod yn ffactor hefyd.

 

Bawso

Mae Bawso yn Ddarparwr Cymorth Achrededig Llywodraeth Cymru i Gymru gyfan, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd Du ac Ethnig Leiafrifol y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Masnachu Pobl a Phuteindra.

 

Cyswllt:

BAWSO Cardiff Main Office 

Unit 4 Sovereign Quay 
Havannah Street 
Cardiff 
CF10 5SF 

 

 

 

Ymholiadau Gwasanaeth Cymorth

Cysylltwch â'r llinell gymorth 24 awr:

 

  • 0800 7318147