Cost of Living Support Icon

Stelcian

Mae stelcian yn batrwm o ymddygiad digroeso, annymunol, obsesiynol ac ailadroddus sy'n ymwthiol

 

Mae stelcio yn fath o aflonyddu a gall gynnwys:

  • Unwanted contact – through phone calls, texts and social media 

  • Cyswllt digroeso – trwy alwadau ffôn, negeseuon testun a'r cyfryngau cymdeithasol

  • Anrhegion digroeso

  • Ymddangos / agosáu at unigolyn neu ei deulu / ffrindiau.

  • Dilyn rhywun

  • Loetran yn rhywle y mae’r person yn mynd iddo yn aml

  • Gwylio neu ysbïo ar rywun

  • Ysgrifennu neu bostio ar-lein am rywun os yw'n ddigroeso neu os nad yw'r person yn gwybod

Mae'r ymddygiad yn cael ei ystyried yn stelcian os yw'r ymddygiad digroeso yn digwydd ddwywaith neu fwy ac wedi gwneud i'r unigolyn deimlo ofn, dan fygythiad neu'n ofidus. 

 

Effaith stelcian 

Gall yr ymddygiadau sy'n gysylltiedig â stelcian gael effaith ar iechyd meddwl a chorfforol unigolyn yn ogystal â chael effaith ar ei fywyd bob dydd. Felly, mae'n bwysig ceisio cyngor a chefnogaeth os ydych chi'n profi'r ymddygiad hwn.  

 

Mathau o Stelcwyr 

  • Y Gwrthodedig - Canlyn Cynbartneriaid, yn y gobaith o gymodi, i ddial neu'r ddau.

  • Ceiswyr Agosatrwydd - Sy'n stelcio rhywun maen nhw'n credu eu bod yn ei garu ac maen nhw'n meddwl a fydd yn teimlo’r un fath.

  • Darpar Garwr Analluog - Sy'n ymyrryd yn amhriodol ar rywun, fel arfer yn ceisio cwrdd neu garwriaeth rywiol fer.

  • Yr Atgas - Sy'n canlyn dioddefwyr i ddial.

  • Y Rheibus – Y mae Stelcian yn rhan o droseddu rhywiol.

Stelcian ac Aflonyddu Ar-lein 

Stelcian ac aflonyddu ar-lein yw pryd mae rhywun yn monitro, aflonyddu, bygwth person arall gan ddefnyddio'r rhyngrwyd neu fathau eraill o dechnoleg.

 

Gall hyn gynnwys:

  • Monitro defnydd rhywun o'r rhyngrwyd
  • Rhywun yn anfon delweddau amhriodol atoch heb eich caniatâd
  • Spamio
  • Dwyn hunaniaeth rhywun
  • Bygwth rhannu gwybodaeth breifat
  • Defnyddio dyfeisiau olrhain

Sut mae cyfraith y DU yn diffinio Stelcio?  

Mae stelcian yn cael ei ystyried yn fath o aflonyddu o dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997. Cafodd stelcian ei wneud yn drosedd bellach gan restru’r ymddygiadau yn glir yn Neddf Diogelu Rhyddidau 2012. Eglurodd y Ddeddf fod dilyn person, gwylio a neu ysbïo, cyswllt ailadroddus, loetran ger ei gartref neu weithle, ymyrryd â'u heiddo a chyhoeddi gwybodaeth heb eu caniatâd, i gyd yn enghreifftiau o ymddygiad stelcian.

Beth i'w wneud os ydych chi'n dioddef stelcio 

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi profi dau neu fwy o achosion o stelcian neu aflonyddu, gallwch roi gwybod am hyn i'r Heddlu.

 

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr Heddlu trwy ddeialu 999. Os hoffech chi siarad â swyddog heddlu ond nad yw'n fater brys, gallwch ffonio 101.

 

Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian

I gael rhagor o gyngor, cymorth a chefnogaeth ynglŷn â stelcian ac aflonyddu, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian. 

  • 0808 802 0300 

 

Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr De Cymru eich cefnogi a'ch helpu i gael cymorth arbenigol.

  • 0300 30 30 161