Hafan >
Byw >
Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig
Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig
Gwybodaeth a chymorth i Ddioddefwyr Hŷn Cam-drin Domestig a Rhywiol
Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol
Mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ymwneud â chamdriniwr neu gamdrinwyr sy'n gorfodi eu pŵer a'u rheolaeth dros rywun arall. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n cael ei brofi gan bobl ifanc yn unig – gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.
I rai pobl hŷn, bydd wedi bod yn nodwedd arwyddocaol am y rhan fwyaf o'u bywydau’n oedolion, yn broblem barhaus am 20, 30, a 40 mlynedd neu hyd yn oed yn hirach.
I eraill, bydd cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dechrau pan fyddan nhw’n cyrraedd oedran hŷn a/neu’n dod yn eiddil neu â nam gwybyddol.
Pwy mae’r gamdriniaeth yn effeithio arnyn nhw?
Amcangyfrifir bod dros 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain bob blwyddyn.
Gall cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar unrhyw un waeth beth fo'u rhyw, tras ethnig, neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae pobl ag anabledd mewn hyd yn oed mwy o berygl o gael eu cam-drin na'r rhai heb anabledd.
Pwy yw’r camdriniwr?
Gall y camdriniwr fod yn briod, cyn-briod, partner, cynbartner, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, wyr(es) neu aelod estynedig arall o'r teulu.
Mewn rhai achosion efallai y bydd mwy nag un camdriniwr hyd yn oed. Os oes gennych gysylltiad rheolaidd â gofalwyr neu staff meddygol, mae gweithdrefnau ar waith i'w helpu i ymdrin â datgeliadau yn gyfrinachol ac yn ymarferol.
Gall darparwyr cymorth arbenigol helpu, nid ydych ar eich pen eich hun.
Cael Cymorth
Gall darparwyr cymorth arbenigol helpu, nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Age UK
Llinell Gyngor Age UK: 0800 678 1602
Gallwch ffonio am ddim, ar agor 8am-7pm, 365 a flwyddyn