Brig
Browser does not support script.
Agorodd y parc i’r cyhoedd yn 1978 a’i ddyrchafu i statws Gwarchodfa Natur Leol ym mis Mai 2013. Heddiw, mae Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston yn noddfa i fywyd gwyllt lleol.
Hanes Cosmeston
Cuddfan Adar sy’n edrych dros y llyn i’r gorllewin. Mae'r guddfan ar agor 24 awr y dydd ac mae am ddim
Maes Chwarae Antur
Tair uned BBQ fach ar gyfer hyd at 30 o bobl a BBQ mwy ar gyfer hyd at 100 o bobl. Mae byrddau picnic a meinciau trwy’r parc gwledig i chi eu defnyddio, sicrhewch na roddir unedau BBQ tafladwy ar y byrddau.
Costau: £22 BBQ bach, £40 BBQ mawr, yn ogystal â blaendal o £20.
Caniateir reidio ceffylau ar hyd y llwybr march milltir o hyd, ond, os hoffech chi reidio ar y prif lwybrau o gwmpas y llynnoedd i’r Dwyrain ac i’r Gorllewin, bydd angen i chi brynu trwydded o £24 y flwyddyn sydd ar gael gan y dderbynfa.
Mae gan faes chwarae antur sydd ar ochr gyferbyn y llyn o’r maes parcio ystod o offer dringo, siglenni, sleidiau a chwch. Ni chaniateir cŵn yn y maes chwarae antur.
Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston
Lavernock Road
Penarth
Bro Morgannwg
CF64 5UY