Cost of Living Support Icon
Shared-Regulatory-Services

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Partneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yw’r Gwasanaeth Rheoliadau a Rennir.

 

Caiff y bartneriaeth ei llywio gan Gyd Bwyllgor a gynrychiolir yn gydradd gan aelodau cabinet a chadeiryddion pwyllgorau amddiffyn y cyhoedd o bob cyngor.

 

Mae gwefan newydd yn cael ei chreu ar hyn o bryd, a bydd yn mynd yn fyw pan fydd y gwasanaeth yn cael ei lansio yn yr hydref. Yn y cyfamser, ceir dolenni gwefannau uniongyrchol isod er mwyn i drigolion a busnesau gael mynediad i gynnwys ar-lein pob cyngor.

 

Bydd y bartneriaeth hon yn cyfleu gwasanaethau mwy effeithlon a chost effeithiol, yn cynnwys cryfhau adrannau Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu ar draws y rhanbarth:

  • Safonau Masnach
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Tai
  • Trwyddedu

 

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

 

 

 

 

 

Bridgend Logo
Cardiff Logo
VoG Logo