Cost of Living Support Icon

Gwastraff Cartref Swmpus

Os oes gennych ddarnau mawr o ddodrefn a nwyddau gwyn megis gwelyau, oergelloedd ac ati, gallwch eu hailgylchu neu drefnu iddynt gael eu casglu.

 

Gallwn gasglu’r nwyddau isod:

Tick
  • Gwelyau a soffas
  • Matresi
  • Byrddau a chadeiriau
  • Wardrobau
  • Poptai a pheiriannau golchi llestri*
  • Oergelloedd a rhewgelloedd, peiriannau golchi a sychu dillad**
  • Carpedi neu isgarpedi**
  • Gosodiadau a ffitiadau ystafell ymolchi
  • Drysau (tu mewn na thu allan)
  • Gwastraff adeiladu
  • Unedau cegin nac arwynebau gwaith
  • Teils carped
  • Siediau
  • Rheiddiaduron
  • Ffensys

**A fyddech gystal â sicrhau bod unrhyw geblau/cordiau ar eitemau trydanol swmpus yn cael eu torri cyn gosod yr eitem allan i’w chasglu.  Byddai hyn hefyd yn cynnwys pibelli arllwys o beiriannau golchi/sychu.

 

 *Gellir eu rhoi mewn sachau duon neu eu rholio. Bydd un eitem yn golygu rholyn tua 1.8m o uchder a 0.4m o led NEU ddwy sach ddu yn llawn carped neu isgarped hyd at uchafswm o 10 bag. 

 

Telerau Ac Amodau

  • Byddwn yn casglu eitemau rhwng 7.00am a 3.00pm.

  • Dim ond yr eitemau rydych wedi eu rhestru fydd yn cael eu casglu.

  • Mae gwastraff swmpus yn cael ei gasglu o ymyl y ffordd
  • Rhowch eich eitemau y tu allan i’ch eiddo erbyn 7.00am ar y dyddiad a drefnwyd

  • Os ydych yn byw mewn ardal gyda mynediad cul neu fynediad heb ei fabwysiadu, archebwch trwy C1V i sicrhau casgliad

  • Diogelwch eitemau fel soffas lledr/ffabrig a matresi gyda gorchudd gwrth-ddŵr megis tarpolin, dalen blastig (bydd hyn yn cael ei dynnu a'i adael wrth ymyl y ffordd) i amddiffyn rhag treiddiad dŵr, os bydd glaw. Ni fydd eitemau sydd wedi'u socian ac sy’n rhy drwm i'w codi yn cael eu cymryd ac ni roddir ad-daliad

  • Mae’n bosibl y caiff llun ei dynnu os methir â chasglu.

  • Os bydd tywydd gwael iawn neu broblemau gyda’r cerbyd, efallai y bydd angen i ni newid eich dyddiad casglu.

  • Ni fydd ad-daliad os dewiswch ganslo’ch casgliad.

  • Ni ellir addasu neu ychwanegu at yr eitemau a restrir ar ôl gwneud yr archeb

    .

 

Trefnu Casgliad  

£25 am bob tair eitem, a  chost ychwanegol o £5 yr eitem, hyd at uchafswm o bum eitem.

 

Nodwch: Ni thelir ad-daliad ar gyfer casgliad swmpus ond gellir addasu dyddiadau casglu yn unol ag argaeledd. Nid ydym yn gallu addasu eitemau ar ôl iddynt gael eu harchebu. 

 

Trefnu Casgliad

 

Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd â mynediad cul, gwnewch eich archeb trwy C1V i sicrhau ei bod yn bosibl casglu eich eitemau.

 

Cofiwch roi eich eitemau wrth ochr y ffordd erbyn 7.00am ar yr hwyraf ar ddiwrnod y casgliad. 

 

Polisi Preifatrwydd Gwastraff Swmpus

Gwneud rhodd pan mae’n bosibl 

Os yw eich eitemau o ansawdd da, gallech ystyried eu rhoi o aelodau’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen leol/grŵp cymunedol. 

  • Sefydliad y Galon 

    Gallwch chi fynd â nhw i siopau Sefydliad y Galon a banciau rhoddion, neu drefnu iddynt gael eu casglu o’ch cartref yn rhad ac am ddim. 

     

    • 08442 248 9147

     

    British Heart Foundation (gwefan Saesneg)

  • Freecycle 

    Grŵp ar-lein ddim er elw sy’n hwyluso’r broses o hysbysebu nwyddau gan drigolion lleol yn rhad ac am ddim. Mae grwpiau Freecycle yn cyflwyno pobl sy’n chwilio am nwyddau i bobl sy’n cynnig nwyddau.   

     

    Freecycle  (gwefan Saesneg)

 

Nodwch: mae masnachwyr yn gyfrifol am waredu’r gwastraff maent yn ei gynhyrchu wrth eu gwaith, ond chi sy’n gyfreithiol gyfrifol am sicrhau eu bod yn wneud hynny.