Cost of Living Support Icon

Baw Ci

Mae’n drosedd i berchnogion cŵn beidio â chodi baw eu ci.

 

Fel cosb, gallai fod rhaid talu dirwy cosb benodedig neu gallech gael gwŷs dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996.

 

Os ydych chi’n mynd â chi am dro ac mae’n creu gwastraff mewn man cyhoeddus, eich cyfrifoldeb chi yw ei godi. Os ydych yn methu gwneud hyn, gallech chi dderbyn Hysbysiad Cosb Benodol o £100, neu gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1,000.

 

Dog in sand

Rhoi Gwybod am Faw Ci

Os ydych chi wedi gweld rhywun yn peidio â chodi baw ei gi, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni:

 

Rhoi Gwybod am Faw Ci

Ymgyrch ‘Mae Cŵn yn Glyfar’

Rydyn ni’n ymwybodol mai lleiafrif o berchnogion sy’n dal i beidio â chodi baw eu cŵn. Hoffem gael eich help i annog perchnogion i dderbyn y cyfrifoldeb am lanhau baw eu cŵn.


Rydyn ni’n gwybod eisoes fod cŵn yn glyfar. Ers canrifoedd, maent wedi bod yn anifail gwaith, ac wedi’u hyfforddi i gyflawni nifer o dasgau, yn cynnwys corlannu defaid ac arogli cyffuriau a ffrwydron. Ond hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi llwyddo i’w dysgu sut i godi eu baw eu hunain, a dyma pryd gallwch chi berchnogion/cerddwyr gofalgar gamu i’r adwy.


Os ydych chi’n berchen ar gi, neu’n gyfrifol am un, sicrhewch eich bod bob amser yn:

  • Mynd â bagiau gyda chi wrth fynd am dro
  • Codi baw eich ci
  • Taflu’r gwastraff i unrhyw un o finiau ysbwriel y Cyngor
Dogs-Queuing-for-Toilet---Welsh
Dog-reading-newspaper Welsh cropped
Buying-toilet-rolls-welsh
Dogs-are-Clever-Christmas-welsh

 

 

Dog bags

Bagiau Baw Ci

Mae bagiau baw cŵn ar gael i’w prynu yn a llyfrgelloedd dethol ym Mro Morgannwg.

 

Pris: £2.00 am 100 o fagiau.

  • Llyfrgell y Barri (01446 422425)

  • Llyfrgell y Bont-faen (01446 773941)

  • Llyfrgell Llanilltud Fawr (01446 792700)

  • Llyfrgell Penarth (02920 708438)

  • Llyfrgell Gymunedol y Rhws (01446 710220)

  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Sain Tathan (01446 751497)

  • Ymddiriedolaeth Llyfrgell Gymunedol y Sili a Larnog (02920 531267)

 

Rydyn ni’n deall ei bod yn bosib eich cael eich hun yn brin o fag wrth fynd am dro. Peidiwch â bod yn swil – gofynnwch i rywun arall sy’n mynd â’u ci am dro gerllaw am fag sbâr, neu os gwelwch chithau rywun heb fag, cynigiwch un iddyn nhw.