Cost of Living Support Icon

Tipio anghyfreithlon

Tipio anghyfreithlon yw gwaredu gwastraff ar dir neu mewn dŵr yn anghyfreithlon.

 

Tipio anghyfreithlon ar dir sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor

Gallwn gael gwared ar dipio anghyfreithlon ar dir sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor ym Mro Morgannwg.

 

Gallwch roi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon ar ffyrdd, palmentydd neu dir a gynhelir gan y Cyngor ar-lein.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y manylion canlynol:

  • Pa fath o wastraff sydd wedi'i dipio’n anghyfreithlon

  • Faint o wastraff sydd wedi'i dipio’n anghyfreithlon

  • Ble mae’r gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon

 

Adrodd ar-lein am dipio anghyfreithlon

  

Tipio’n anghyfreithlon ar dir preifat

Ni allwn gael gwared ar dipio anghyfreithlon ar dir preifat.

 

Perchnogion tir sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am glirio a chael gwared ar dipio anghyfreithlon ar dir preifat.

 

Mae'n bosibl y gallwn gymryd camau gorfodi yn dibynnu ar fath a maint y gwastraff. I drafod yr opsiynau sydd ar gael, cysylltwch â'n Huned Troseddau Gwastraff:

 

Cael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol

Os ydych yn rhoi eich gwastraff i rywun arall i'w waredu mae gennych ddyletswydd gofal i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei waredu'n gyfreithiol gan gludwr gwastraff cofrestredig. Ceir rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig ar  wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Gallech gael dirwy o hyd at £5000 gan lys ynadon os na fyddwch yn cymryd mesurau rhesymol i wirio bod gweithredwyr yn gludwyr gwastraff cyfreithlon fydd yn cael gwared ar eich gwastraff yn gywir.