Cost of Living Support Icon

Graffiti

Gallwch chi ein hysbysu ar-elin o achosion o graffiti.

 

Rydyn ni’n gwaredu graffiti oddi ar:

  • Arwyddion ffordd
  • Arosfannau bws
  • Tir perthnasol mae'n ddyletswydd arnom ni i'w lanhau

 

Nodwch: nid oes awdurdod gennym na dyletswydd arnom i waredu graffiti oddi ar eiddo preifat (oni bai ei fod yn sarhaus, a hynny dim ond â chaniatâd y perchennog). Cyfrifoldeb cyfreithiol y tirberchennog neu berchennog yr adeilad ydyw. 

 

Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaeth Bro Ddiogelach – yn amodol ar fodlonrwydd y perchennog i lofnodi ymwadiad, gellir gwaredu graffiti o’r math hwn gan y Gwasanaeth 
Prawf neu’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid.

 

Hysbysiadau Cosb Penodol

Gall swyddogion gorfodi a chydymffurfiaeth y Cyngor gyflwyno hysbysiadau cosb penodol i’r sawl sy’n cyflawni troseddau llai difrifol. Mae gan swyddogion yr heddlu a swyddogion cefnogaeth gymunedol yr un hawl.

 

Ein hysbysu ar-lein am graffiti

Os ydych chi wedi gweld graffiti’n cael ei daenu, gallwch chi ddweud wrthon ni drwy lenwi’n ffurflen ar-lein. Mae’n nod gennym waredu graffiti sarhaus/hiliol o fewn un diwrnod gwaith.

 

Ffurflen graffiti ar-lein