Cost of Living Support Icon

Cynllun Benthyca Cyfrifiaduron Llechen y Fro (Dychwelyd yn 2024)

 

Ydych chi'n adnabod rhywun heb ddyfais ddigidol ond a hoffai gymryd y camau cyntaf tuag at fynd ar-lein? Gallai benthyciad am ddim o un o'n iPads, wedi'i lwytho ymlaen llaw gyda data 4G, fod yn ffordd berffaith o'u rhoi ar ben ffordd.

 

Woman-Holding-Apple-Ipad-Air-Mae llyfrgelloedd Bro Morgannwg bellach yn cynnig cyfrifiaduron llechen i'w benthyg i aelodau'r llyfrgell. Mae'n gobeithio cynnig cyfle i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at offer digidol gymryd y camau cyntaf tuag at fynd ar-lein.

 

Mae ein holl gyfrifiaduron llechen wedi'u llwytho ymlaen llaw gyda data 4G. Mae hyn yn golygu nad oes angen eu cysylltiad rhyngrwyd eu hunain ar ddefnyddwyr er mwyn cael mynediad i wefannau a gwasanaethau ar-lein gyda'r dyfeisiau. Mae'r llechi hefyd yn cynnwys detholiad o appiau, wedi'u dewis yn benodol gan ein staff arbenigol ein hunain i ddechrau defnyddwyr arni cyn gynted â phosibl.

 

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

  • Gellir benthyca tabledi o'n canghennau yn y Barri, Y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Penarth.

  • Yn union fel llyfrau llyfrgell, mae benthyciadau yn rhad ac am ddim.

  • Mae'r cyfnod benthyca safonol am bythefnos gyda'r opsiwn i ymestyn y benthyciad ar yr amod nad oes unrhyw ddefnyddwyr eraill yn aros.

  • Tra bod gennych y ddyfais, mae gennych ddefnydd llawn o'i holl nodweddion megis galwadau fideo, pori'r rhyngrwyd a lawrlwytho a defnyddio eich dewis eich hun o appiau.

  • Pan fyddwch yn dod â'r ddyfais yn ôl, caiff yr holl wybodaeth ei dileu o’r ddyfais cyn cael ei benthyg i'r defnyddiwr nesaf.

 

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'ch cangen llyfrgell leol i drefnu benthyciad.