Cost of Living Support Icon

Yswiriant 

Os ydych chi wedi dioddef anaf a/neu niwed i’ch eiddo yr ydych yn ystyried bod Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol amdano, llenwch ffurflen hawlio yswiriant  

 

Ystyriwch yn ofalus cyn gwneud cais am yswiriant os gwelwch yn dda:

  • Bydd angen talu unrhyw gais o adnoddau’r cyngor yn y pen draw.
  • Mae cost prosesu ceisiadau aflwyddiannus yn dreth ar amser staff ac yn arallgyfeirio adnoddau o’r gwasanaethau craidd.

Mewn rhai achosion, bydd gennych fathau eraill o yswiriant a allai dalu am y niwed neu’r anaf perthnasol. Efallai fydd eich cwmni yswiriant yn medru eich cynorthwyo mewn achos o’r fath.

 

Fel arfer, buasai’r cwmni’n gallu prosesu cais yn gynt a heb gosb ariannol i chi yn y dyfodol, neu, yn achos niwed i eiddo, heb ostyngiad ar gyfer ôl traul fel byddai’n berthnasol i gais atebolrwydd niwed i eiddo fel arfer.

 

Er mwyn hawlio iawndal yn llwyddiannus gan y Cyngor, bydd angen i chi brofi bod y Cyngor ar fai yn unol â’r gyfraith. Nid oes hawl awtomatig i iawndal, ac ni fydd y Cyngor o anghenraid yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb dim ond oherwydd bod digwyddiad wedi codi.

 

Os ydych chi’n denant i Dai’r Fro, ac mae cynnwys eich cartref wedi’i yswirio gan Allianz Insurance, ac rydych chi’n dymuno gwneud cais drwy’r Polisi hwn, cysylltwch â Chymorth Rhent yn y ffordd arferol. Caiff  Allianz Insurance ei ddarparu drwy Gymorth Rhent. 

 

Mae’n RHAID i chi ddarparu’r wybodaeth isod: 

  • Crynodeb eglur o’r ffeithiau mae’r cais wedi’u seilio arnynt, yn cynnwys amser a dyddiad y digwyddiad.
  • Manylion natur a maint eich anaf(iadau) a/neu fanylion niwed i’r eiddo.
  • Manylion unrhyw golled ariannol a gododd.
  • Digon o wybodaeth bellach i ganiatáu dechrau archwiliadau ffurfiol, e.e. cynllun o leoliad y digwyddiad, a/neu ffotograffau sy’n dangos y lleoliad yn eglur.

PWYSIG: ni all y cais gael ei brosesu yn absenoldeb y wybodaeth hon.

 

Bydd y Cyngor yn talu iawndal dim ond pan geir tystiolaeth o esgeulustod neu doriad o ddyletswydd statudol ar ran y Cyngor a/neu aelodau ei weithlu. Caiff pob hawliad ei archwilio’n llawn a’i ddyfarnu yn ôl ei deilyngdod.

 

Ni fydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau sy’n codi o ganlyniad i esgeulustod contractwyr.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau ar y ffurflen gais ac yn eu dilyn. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu’n effeithlon ac y gwneir penderfyniad ar unrhyw gytundeb yn ddi-oed.

 

Er mwyn rheoli disgwyliadau o ran amserlen prosesu unrhyw gais, mae’r Cyngor yn dilyn Rheolau Gweithdrefnau Sifil (CPR). Yn unol â’r rhain, dyma fydd ein terfynau amser:

  • Cydnabod yr hawliad o fewn 21 diwrnod
  • Bydd tri mis gan y Cyngor o ddyddiad cydnabod eich hawliad i archwilio’r amgylchiadau a darparu ymateb ar atebolrwydd.
  • Yn ogystal â’r terfynau amser a osodir gan y CPR, bydd y Cyngor yn ceisio ymateb i unrhyw ohebiaeth gennych chi o fewn 14 diwrnod.

 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â C1V

 

 

Y Broses Hawlio 

Bydd yr Adran Yswiriant a Rheoli Risg yn cydnabod derbyn eich hawliad o fewn 15 diwrnod gwaith, a gallai eich cais gael ei anfon ymlaen at drafodwyr hawliadau yswiriant allanol y Cyngor. 

 

Bydd trafodwyr yr hawliadau’n cydnabod derbyn y cais o fewn pum diwrnod gwaith.

 

Bydd y Cyngor yn archwilio’r honiadau ac yn anfon adroddiad at y trafodwyr hawliadau.

 

Caiff hawliadau eu prosesu mor fuan â phosibl, er bod y gyfraith yn caniatáu hyd at dri mis ar gyfer archwilio hawliadau anafiadau personol, a phenderfynu a oes bai ar y Cyngor ai peidio. Er nad oes terfyn amser ar geisiadau eiddo yn unig, bydd y Cyngor yn gwneud ei orau i ddarparu penderfyniad ar atebolrwydd o fewn tri mis.

 

Os yw eich hawliad yn ymwneud â niwed i’ch eiddo, bydd angen derbynebau gwreiddiol a/neu amcanbrisiau amnewid a chadarnhad o oed yr eitemau. Dylech fod yn ymwybodol na wneir unrhyw gynnig o gytundeb ar sail cyfnewid hen am newydd, ac o’r herwydd, caiff unrhyw ffigyrau eu haddasu i gyfrif am ôl traul. 

 

Yn ogystal â’r wybodaeth a nodir uchod, efallai fydd trafodwyr yn hawliad yn gofyn am eich enw llawn, eich dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Cenedlaethol oni ddarparwyd nhw eisoes.

 

Os yw eich hawliad yn ymwneud ag anaf, bydd angen casglu tystiolaeth feddygol. Bydd y trafodwyr hawliadau’n anfon ffurflen i’w llenwi i roi caniatâd iddyn nhw gysylltu â’ch meddyg teulu/yr ysbyty am adroddiad. Dylech fod yn ymwybodol fod amrywiaeth eang yn hyd y cyfnod y gall ei gymryd i dderbyn adroddiad, ac nid oes ganddynt reolaeth dros hyn, ac eithrio anfon llythyron atgoffa cyson. Mae rhwydd hynt i chi gysylltu â’ch meddyg teulu/yr ysbyty mewn achos o’r fath. 

 

Os nad yw adroddiad y meddyg teulu/yr ysbyty yn ddigonol i asesu gwerth eich anafiadau’n llawn, efallai fydd rhaid i’r trafodwyr hawliadau benodi ymgynghorydd i’ch archwilio chi er mwyn paratoi adroddiad cynhwysfawr. Gall hon fod yn broses hir sy’n parhau dros gyfnod o fisoedd.

 

Y Canlyniad Terfynol

Unwaith bydd yr holl dystiolaeth wedi’i chasglu a’i hasesu, bydd y trafodwyr hawliadau’n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar atebolrwydd cyfreithiol y Cyngor.

 

Os mai’r casgliad yw nad oes atebolrwydd, ac nid yw’r trafodwyr hawliadau’n talu eich cais, byddwch yn derbyn llythyr sy’n egluro pam. Os ydych yn dymuno trafod y mater ymhellach, bydd gofyn i chi gysylltu â thrafodwyr yr hawliad.

 

Os dyfernir bod achos i’w ateb, bydd y trafodwyr hawliadau’n cynnig swm iawndal ysgrifenedig y maent yn ystyried sy’n adlewyrchu lefel addas o iawndal o dan yr amgylchiadau. 

 

Nodwch: Twyll – os canfyddir bod unrhyw hawliad wedi awgrymu neu or-ddweud niwed drwy dwyll, boed hynny yn ystod cyfnod prosesu’r cais neu wedi hynny, gellid trosglwyddo’r achos i’r heddlu a/neu Wasanaeth Erlyn y Goron, a gallai hyn arwain at erlyniad troseddol.