Cost of Living Support Icon

Newyddion Gorffennaf 2017

Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor

 

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio gwefan cymorth busnes ar ei newydd wedd yn cynnig cymorth i fusnesau a grwpiau cymunedol - 31 Gorffennaf 2017

 

Mae tîm datblygu economaidd newydd Cyngor Bro Morgannwg wedi ail-ddylunio gwefan cymorth busnes sy’n cynnig ffordd hawdd i fusnesau a grwpiau cymunedol o ddod o hyd i wybodaeth.

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ailwampio Parc Wordsworth ym Mhenarth ar gyfer gwyliau'r Haf -  27 Gorffennaf 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trawsnewid Parc Wordsworth ym Mhenarth trwy gyflwyno cyfleusterau mwy a gwell i deuluoedd eu mwynhau’r haf hwn. 

 

 

Siop ym Mhenarth yn derbyn dirwy ar ôl i swyddogion safonau masnach atafaelu gwerth £3,500 o dân gwyllt  - 27 Gorffennaf 2017

Mae Swyddogion Safonau Masnach yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg wedi llwyddo i erlyn busnes ym Mhenarth ar ôl dod o hyd i werth £3,500 o dân gwyllt mewn cynhwysyddion anaddas yn y siop.

 

Rheolwr Cynorthwyol Cymru, Kit Symons, Yn Croesawu'r Caeau Newydd Yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot - 26 Gorffennaf 2017

Mae Rheolwr Cynorthwyol Cymru, Kit Symons, wedi croesawu'r chwe chae pêl-droed newydd gyda llifoleuadau yn yr awyr agored yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn dilyn buddsoddiad gwerth mwy na £500,000 gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Y Cyngor i ystyried dewisiadau ar ddyfodol trafnidiaeth yn Ninas Powys - 26 Gorffennaf 2017

Mae datrysiad tymor hir i’r tagfeydd traffig yn Ninas Powys i gael eu hystyried gan gabinet Cyngor Bro Morgannwg yn ddiweddarach y mis hwn, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau astudiaeth ddiweddar o’r broblem. 

 

Llwyddiant wrth i fwy na 700 o ddisgyblion y Fro gwblhau hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd - 26 Gorffennaf 2017

Mae plant ysgolion cynradd ledled y Fro wedi dysgu sut i gynnwys pawb mewn gweithgareddau dyddiol wedi’u trefnu gan Chwaraeon Anabledd Cymru. 

 

Ynys tân yn cymryd drosodd Ynys Y Barri wrth i bobl alw'r digwyddiad eleni yn 'y flwyddyn orau hyd yn hyn' - 25 Gorffennaf 2017

Bu i sioe ardderchog oleuo'r awyr yn Ynys y Barri wrth i'r Ynys Tân poblogaidd ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn!


Llyfrgell plant yn ail-agor ar gyfer her ddarllen yr haf 2017- 24 gorffennaf 2017

Mae llyfrgell plant Penarth wedi ail-agor gyda dros 11,000 o lyfrau ar gael i'w benthyg.

 

 

Cynorthwy-ydd cegin o'r Fro yn ennill gwobrau arian ac efydd mewn cystadleuaeth arlwyo genedlaethol - 24 Gorffennaf 2017

Gwnaeth Cynorthwy-ydd Cegin o Gyngor Bro Morgannwg argraff â’i sgiliau coginio penigamp mewn cystadleuaeth genedlaethol ddiweddar.

 

Dechrau'n Deg i ddathlu 10 mlynedd o waith cymunedol gyda diwrnod o hwyl i'r teulu - 24 Gorffennaf 2017

 

Gwahoddir pobl i fwynhau diwrnod o hwyl a drefnir gan Dechrau’n Deg Cymru wrth iddynt ddathlu 10 mlynedd o waith yn cefnogi teuluoedd yn y gymuned.

 

 

Y cyngor yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drwyn Y Rhws - 19 Gorffennaf 2017

Roedd cynghorwyr lleol a thimau diogelwch cymunedol a hamdden Cyngor Bro Morgannwg yn y Rhws yr wythnos ddiwethaf, ynghyd â swyddogion achub bywydau a'r heddlu, fel rhan o ymdrech i weithio â phreswylwyr lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Dyfarnu mwy na £11,000 i naw sefydliad yn y fro o gronfa’r gist gymunedol - 20 Gorffennaf 2017

Roedd grwpiau chwaraeon ledled y Fro ar ben eu digon ar ôl cael cyfran o £11,267 yn ail rownd panel Cronfa'r Gist Gymunedol.

 

 

Bro diogelach yn cynnal diwrnod agored cymunedol am ddim yng ngorsaf dân y Barri - 19 Gorffennaf 2017

Mewn diwrnod agored yng Ngorsaf Dân y Barri, y nod fydd dangos sut y mae gwasanaethau lleol yn helpu i wneud y Fro’n fwy diogel i drigolion ac ymwelwyr.

 

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi hwb i Barry Town United AFC gyda gwelliannau i Barc Jenner - 18 Gorffennaf 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi hwb mawr i Barry Town United AFC yn dilyn eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru gyda gwaith pellach i wella Parc Jenner.

 

Disgyblion yn dangos eu doniau yng nghystadlaethau athletau’r haf  - 07 Gorffennaf 2017

Mae disgyblion o ysgolion ledled y Fro wedi creu argraff ym myd y campau dros yr haf.

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhagori unwaith eto yn y Gwobrau Baner Werdd - 18 Gorffennaf 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi rhagori yn y gwobrau Baner Werdd, gan ddod i’r amlwg fel un o’r siroedd sy’n perfformio orau yng Nghymru.

 

Gardd Gyfeillgarwch yng Ngerddi'r Parêd - 17 Gorffennaf

Gardd newydd i ddathlu cysylltiadau â threfi gefell: Fecamp yn Ffrainc, Mouscron yng Ngwlad Belg a Rhinefelden yn yr Almaen.

 

 

Digwyddiad sy’n ystyriol o oedran yn rhannu newyddion ar sut mae gwneud newidiadau cymunedol cadarnhaol - 17 Gorffennaf 2017

Ymgasglodd torf o bobl yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo y Barri i glywed sut y gallan nhw wneud eu hardal a’u gwaith yn fwy ystyriol o oedran.

 

Awduron o gymru yn lansiad llyfrau celf ganolog - 17 Gorffennaf 2017

Roedd dau awdur wrth eu bodd yn cyflwyno eu nofelau newydd mewn lansiad yn y Barri.

 

Y Cyngor yn cytuno ar wasanaeth camerâu cylch cyfyng gwell i'r Fro - 14 Gorffennaf 2017

Bydd rhagor o gamerâu cylch cyfyng ym Mro Morgannwg yn rhan o wasanaeth gwell y cytunodd y Cyngor arno'r wythnos hon.

 

Boreau coffi elusennol y Maer - 13 Gorffennaf 2017

Hoffa Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles, gyhoeddi ei bod am gynnal boreau coffi elusennol rheolaidd.

 


Y gwasanaethau rheoliadol yn mynd i'r afael â sgamio dros y ffôn wrth i bedwar gael eu harestio - 13 Gorffennaf 2017

Mae rhybudd wedi ei chyhoeddi i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont, Caerdydd a’r Fro, yn ystod mis Gorffennaf, sef Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau.

 

 

Rhybudd wedi i'r safonau masnachu gipio 114 o nwyddau Justin Bieber ffug - 12 Gorffennaf 2017

Rhoddwyd rhybydd i fasnachwyr twyll wedi i dros 114 o grysau t a hwdis Justin Nieber ffug gael eu hatalfaleu yn ystod cyngerdd y seren bop yng Ngaherdydd. 

 

Ugain mlwyddiant Harry Potter - 12 Gorffennaf 2017

All trainee wizards and witches passed with flying coloursCynhaliwyd digwyddiad swynol yn Llyfrgell y Barri i nodi ugain mlynedd ers Harry Potter and The Philosopher’s Stone.

 

Digwyddiad triathlon bach yn codi arian i helpu canolfan ddydd leol - 05 Gorffennaf 2017 

Cafodd mwy na £2, 200 ei godi gan elusen sy’n helpu trigolion ag anableddau corfforol ym Mro Morgannwg.