Cost of Living Support Icon
​

Adnoddau Aelodau Llyfrgell

Caiff pob aelod o Wasanaeth Llyfrgell Bro Morgannwg fynediad am ddim i rai o brif adnoddau ymchwil y DU

Nid yw’r cronfeydd data yma ar gael i holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd, ond fel aelod o lyfrgell Bro Morgannwg, gallwch ddefnyddio’r rhif ar eich cerdyn llyfrgell i bori rhai o’r adnoddau mwyaf dibynadwy, manwl a difyr sydd ar gael ar-lein. Gan mai Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r adnoddau, dim ond y manylion a gyfieithwyd. Nodir argaeledd gwasanaethau Cymraeg pan fo’n berthnasol.

 

 

 

Mynediad drwy Gyfrifiaduron y Llyfrgell

Mae’r cronfeydd data dan danysgrifiad isod ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgelloedd yn unig drwy’r dolenni isod:

access to research

Access To Research 

Menter newydd sy’n cynnig mynediad i ystod eang o erthyglau ac ymchwil academaidd a gedwir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y DU.

 

Access to Research

ancestry_logo_dsAncestry 

Darganfod hanes eich teulu a chreu achres drwy chwilio cofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy.

 

Ancestry

Blackwell Reference

Blackwell Reference 

Y llyfrgell ymchwil ar-lein academaidd fwyaf. Mynediad ar flaenau eich bysedd i ysgolheictod awdurdodol a chyfredol ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau. 

 

Blackwell Reference Online

findmypast

Find My Past

Gwefan hel achau sy’n hawdd i’w chwilio er mwyn olrhain hanes eich teulu. Ceir yma gofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy. Yn cynnwys mynediad i gyfrifiad Cymru a Lloegr 1921. 

Find My Past

BFI Replay Square

BFI Replay

Mae BFIReplay, sydd ar gael yn benodol i lyfrgelloedd benthyg cyhoeddus y DU, yn adnodd AM DDIM i ddefnyddwyr bori a mwynhau at ddibenion hamdden neu astudio. Miloedd o fideos - rhai cyfarwydd, rhai na welwyd ers degawdau.

BFI Replay 

 

 

 

 

Ar unrhyw ddyfais electronig 

Mynediad gartref, ar y ffordd neu yn y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell.

 

enclyclopedia

Encyclopedia Britannica

Un o’r adnoddau gwybodaeth mwyaf cyflawn a chywir yn y byd. Porwch gannoedd o filoedd o erthyglau, bywgraffiadau, fideos, delweddau a gwefannau gyda’r gwyddoniadur ar-lein. 

 

Britannica

european souces online

European Sources Online

Gwasanaeth gwybodaeth a chronfa ddata ar-lein ar weithgareddau a sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol Ewrop, a materion o bwys i ymchwilwyr, trigolion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. 

 

European Sources Online

Gale Cengage Logo

Gale Virtual Reference Library

Cronfa ddata o wyddoniaduron, almanaciau a ffynonellau ymchwil arbenigol.

 

Gale Virtual Reference Library

go_citizen_logo-s

GoCitizen

Adnodd astudio ar-lein i ymgeiswyr prawf Bywyd yn y DU neu brawf dinasyddiaeth Brydeinig.

 

GoCitizen website

Oxford ResourcesOUP Logo.gif

Wrth fynd at adnoddau Oxford o bell, e.e. o'ch teclyn eich hun neu o gartref, bydd angen i chi deipio'r llythrennau "vg" ac yna rif eich cerdyn llyfrgell, e.e. vg30000031

Gallwch gael mynediad at yr holl adnoddau gan Brifysgol Rhydychen rydyn ni'n tanysgrifio iddyn nhw drwy'r dudalen lanio hon.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae What Everyone Needs to Know® yn gyfres a ysgrifennir gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd ac mae'n cynnig trafodaethau awdurdodol ar faterion cyfoes cymhleth ar dros 100 o bynciau, o rywedd i gynaliadwyedd i robotiaid, mewn fformat holi ac ateb bywiog.


Mae’r Oxford English Dictionary yn eiriadur hanesyddol sy'n cynnwys ystyr, hanes, a defnydd dros 500,000 o eiriau ac ymadroddion o ddoe a heddiw, o bob rhan o'r byd sy’n siarad Saesneg.


Mae’r Oxford Dictionary of National Biography yw'r cofnod cenedlaethol o ddynion a menywod sydd wedi siapio pob agwedd ar hanes a diwylliant Prydain ledled y byd, o'r Rhufeiniaid i'r 21ain ganrif.


Oxford Dictionaries Premium yw hafan ein hadnoddau iaith premiwm ar gyfer Saesneg, Arabeg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwsieg, a Sbaeneg.
Mae’r Oxford Reference yn sylfaen graidd o 160+ o eiriaduron academaidd cryno sy’n wych ar gyfer gwirio ffaith.


Mae’r Very Short Introductions yn llyfrau lefel gychwynnol, sy'n cynnig trosolwg eang darllenadwy iawn i ddefnyddwyr i ysbrydoli diddordeb a brwdfrydedd mewn pwnc.


Who's Who yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth gyfredol am dros 32,500 o bobl ddylanwadol o bob cefndir, ledled y byd.
Mae Who Was Who yn archif hanesyddol amhrisiadwy sy'n dyddio’n ôl i 1897, sy'n cynnwys cofnodion am dros 100,000 o bobl, sydd bellach wedi marw, a oedd wedi’u cynnwys mewn rhifynnau blaenorol o Who's Who.


Mae’r Oxford Bibliographies yn argymhellion darllen, yn pwyntio defnyddwyr at y ffynonellau gorau ar bwnc wrth adael i'r ymchwilydd ddarllen y gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol.

 

Mae Oxford World's Classics yn rhoi mynediad at nofelau ac ysgrifau clasurol dilys. Mae'r cyfrolau'n cynnwys cyflwyniadau arbenigol, nodiadau cynhwysfawr, cronolegau awduron, a llyfryddiaethau cyfoes, gan ei wneud yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr, ymchwilwyr, a selogion llenyddiaeth.


Mae’r American National Biography yn cynnig cofnod cenedlaethol helaeth o ffigurau arwyddocaol, dylanwadol neu enwog o hanes America a ysgrifennwyd gan ysgolheigion amlwg.


Mae’r Oxford African American Studies Center yn meddu ar dros 20,000 o erthyglau gan yr ysgolheigion gorau yn y maes, gan gyfuno awdurdod gweithiau cyfeirio sydd wedi'u golygu'n ofalus gyda thechnoleg soffistigedig i greu'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o waith ysgolheigaidd sydd ar gael ar-lein i ganolbwyntio ar y bywydau a'r digwyddiadau sydd wedi siapio hanes a diwylliant Affro-Americanaidd ac Affricanaidd.


Mae’r Benezit Dictionary of Artists yn adnodd cynhwysfawr a diffiniol ar gyfer bywgraffiadau artistiaid, sydd wedi’i gyhoeddi ers 1911, gan gynnwys 149,000 o fywgraffiadau yn ogystal â chofnodion ocsiynau, hanesion arddangosfeydd, a dros 11,000 o ddelweddau o lofnodion a stampiau gwerthu artistiaid.


Mae'r World Shakespeare Bibliography yn gronfa ddata electronig y gellir ei harchwilio sy'n cynnwys y cofnod mwyaf cynhwysfawr o waith ysgolheigaidd a chynyrchiadau theatrig cysylltiedig â Shakespeare sydd wedi’u cyhoeddi a’u cynhyrchu ledled y byd o 1960 hyd heddiw.


Mae'r New Oxford Shakespeare yn cyflwyno ystyriaeth hollol newydd o holl weithiau Shakespeare, wedi'i olygu o'r egwyddorion cyntaf o'r testunau sylfaenol eu hunain, ac yn tynnu ar y gwaith ysgolheigaidd testunol a theatrig diweddaraf.

rocks back pages

Rock's Back Pages

Archif penigamp o newyddiaduraeth cerddoriaeth gyfoes. Ceir yma dros 30,000 o erthyglau ar artistiaid o Aaliyah i ZZ Top ym mhob maes o roc i hip-hop gan newyddiadurwyr cerdd gorau’r hanner canrif diwethaf. Ar eich dyfais eich hun, teipiwch y llythrennau ‘vg’, ac yna’r rhif aelodaeth a welir ar eich cerdyn llyfrgell.

 

Rock's Back Pages

theory  test pro logo

Theory Test Pro

Efelychiad hynod realistig o brawf gyrru theori’r DU yng nghategori pob cerbyd. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim i holl aelodau llyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Theory Test Pro

National Library Wales Logo
Gwefan ddwyieithog o adnoddau electronig sy’n amrywio o gylchgronau academaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd. Gall defnyddwyr llyfrgelloedd Bro Morgannwg gofrestru ar-lein  i ddefnyddio’r adnoddau yma cyhyd â’ch bod yn byw yng Nghymru a bod gennych god post Cymreig.  

 

 

 

Papurau newydd

Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnig mynediad at rifynnau hanesyddol o bapurau newyddion cenedlaethol a lleol.

 

Mynediad gartref, ar y ffordd neu yn y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell.

Newsbank

Newsbank

Archwiliwch safbwyntiau amrywiol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau, pobl a digwyddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Ymchwiliwch i feysydd fel busnes, iechyd, addysg, yr amgylchedd, materion gwleidyddol, a chymdeithasol a mwy. Yn cynnwys amrywiaeth eang o ffynonellau newyddion creadadwy, wedi'u fetio o fwy na 200 o wledydd, gan gynnwys fersiynau testun llawn o fwy na 50 o ffynonellau Cymreig a rhifynnau delwedd lliw llawn o The Times a The Western Mail! Ar gael o bell 24/7 ar unrhyw ddyfais gyda'ch cerdyn llyfrgell.

 

 Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell gallwch fynd i wefan Newsbank.

 

I gyrchu UK Newsbank o bell, e.e. o gartref, ewch i wefan Newsbank a rhowch rif eich cerdyn llyfrgell.

 

Times Digital Archive

Times Digital Archive 1785-2019

Mae Archif Digidol y Times yn eich galluogi i weld tudalennau wedi'u sganio o'r Times o 1785 hyd at y presennol bron.

 

I gael mynediad i wefan archif The Times gartref, bydd arnoch angen rhif eich cerdyn llyfrgell. 

ukpress online logo

UKPressOnline

Mae UKPressOnline yn caniatáu i chi ddarllen a lawrlwytho tudalennau a rhifynnau chwiliadwy fel y’u cyhoeddwyd o bapurau’r Daily Express (o 1900 ymlaen). Mae hefyd yn cynnwys y Sunday Express a’r Daily Star (2000 hyd heddiw), a blynyddoedd amrywiol o’r Church Times, The Watchman, Daily Worker a’r Morning Star. Yn ogystal, ceir yma archif o’r Ail Ryfel Byd sy’n cynnwys rhifynnau nifer o bapurau rhwng 1933 ac 1945.  

BNA Logo

Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain (British Newspaper Archive)

Mae Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain, sy’n cynnig mynediad ar-lein i filiynau o dudalennau o bapurau newydd o wledydd Prydain ac Iwerddon o 1703-2003, yn adnodd gwych i bawb sydd â diddordeb mewn hanes, ac i haneswyr teuluol a lleol yn benodol.

Mae papurau newydd o gasgliad enfawr Llyfrgell Prydain yn cael eu sganio bob dydd i gynhyrchu copïau digidol y gellir eu chwilio o unrhyw le yn y byd. Gall defnyddwyr llyfrgell chwilio drwy gannoedd o filiynau o erthyglau yn ôl gair allweddol, enw, lleoliad, dyddiad neu deitl a gweld y canlyniadau'n ymddangos o flaen eu llygaid. Gallwch wirio pa bapurau newydd sydd eisoes ar-lein trwy weld y rhestr gyflawn o deitlau papurau newydd.

 

Tra eich bod wedi mewngofnodi i gyfrifiadur yn un o lyfrgelloedd Bro Morgannwg, bydd gennych fynediad digyfyngiad i Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain. I weld tudalennau o’r archif, bydd angen i chi gofrestru (am ddim) a mewngofnodi i’r gwasanaeth. Gallwch gadw erthyglau rydych yn eu gweld ar eich tudalen Wedi Cadw a gallwch hefyd greu ffolderi ar gyfer erthyglau gwahanol a’u categoreiddio sut bynnag. Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau i unrhyw rai o’r erthyglau rydych wedi eu cadw. 

Ar gael ar cyfrifiaduron y llyfrgell yn unig.

 

Mae casgliad o gynnwys rhad ac am ddim i'w weld ar gael a gallwch ei gyrchu ar ddyfeisiau nad ydynt yn rhai’r llyfrgell, e.e. o'r cartref. D.S. bydd angen i chi gofrestru a mewngofnodi.

 

 

National Library Wales Logo

Welsh Newspapers Online

Adnodd am ddim gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw Papurau Newydd Cymru Ar-lein lle gallwch ddarganfod milynau o erthyglau o gasgliad cynhwysfawr y llyfrgell o bapurau newydd hanesyddol.