Gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni i gefnogi plant gydag anghenion arbennig cymhleth, anghenion emosiynol ac ymddygiadol ac i helpu i hybu llwyddiant plant dan ofal yr awdurdod lleol.
Caiff y gwasanaeth ei ddarparu mewn ysgolion drwy weithio gyda phlant, eu hathrawon a'r rhieni. Yn aml, mae’n cynnwys goruchwylio, trafod ac asesu. Mae pob un o'r rhain yn cyfrannu at ddarlun ehangach o anghenion y plentyn ac yn helpu i lunio cynlluniau i'w cefnogi.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei ddarparu o amgylch plant unigol, er rydym hefyd yn cynnig cymorth i grwpiau o blant neu ar gyfer materion ysgol ehangach.
Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan waith therapiwtig uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, yn unigol ac mewn grwpiau. Hyfforddi staff mewn lleoliadau addysgol ar agweddau ar ddysgu, ymddygiad a datblygiad plant a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am bolisïau a mentrau a chefnogi'r awdurdod yn gyffredinol wrth ymgymryd â'i ddyletswyddau a chyfrifoldebau gan gynnwys asesiadau statudol i blant gydag anghenion addysgol arbennig.
Er mwyn cael mynediad at y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, cysylltwch â Chydlynydd AAA ysgol eich plentyn.