Cost of Living Support Icon

Addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fro 

Rydym yn cefnogi pob disgybl i gael pob cyfle i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl, gan sicrhau bod manteision dwyieithrwydd yn cael eu hyrwyddo i bob rhiant a bod pob dysgwr yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg.

 

Ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Fro

Mae gan Fro Morgannwg 7 ysgol cyfrwng Cymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgolion ac i wneud cais am le mewn ysgol:

Y Ganolfan Gymraeg

Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg ac yn 5-11 oed, a ydych chi wedi ystyried ein Canolfan Gymraeg? 

 

Mae ein Canolfan Gymraeg yn caniatáu i ddysgwyr oed cynradd gael eu trochi yn y Gymraeg i'w helpu i fod yn llwyddiannus yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg. Byddai taith eich plentyn yn dechrau gyda rhaglen gyffrous 12 wythnos yn ein Canolfan Gymraeg.

 

I gael rhagor o wybodaeth:

Addysg cyfrwng Cymraeg ac adnoddau i rieni

Gwybodaeth a chymorth:

Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (CSCA) 2022-2032

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn esbonio ein cynllun deng mlynedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yn y Fro.

 

Rydym eisiau cynyddu nifer y plant ym Mlwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i 24% erbyn 2031-32.  Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni sicrhau bod tua 390 o leoedd Blwyddyn 1 ar gael erbyn 2031-32 yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth presennol.

Mwy o wybodaeth am y CSCA:

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg, mae croeso i chi gysylltu â:

 

Jeremy Morgan

Swyddog Addysg Gymraeg

  • 01446 709108