Cost of Living Support Icon

Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (CSCA) 2022-2032

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ymgynghori ar, cynhyrchu ac adolygu cynlluniau sy'n darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg a'r iaith Gymraeg yn eu hardal.

 

Bu newidiadau sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Gymraeg ar lefelau lleol a chenedlaethol ers i CSCA cyntaf y Cyngor a rheoliadau ynghylch Cynlluniau Gweithredu Lleol gael eu diwygio a'u diweddaru. Ar ben hynny, mae 'Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr' yn cyflwyno gweledigaeth tymor hir ar gyfer Cymru â’r Gymraeg yn ffynnu.  Nod y strategaeth yw cynyddu:

  • nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050 a,

  • sicrhau bod canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg yn unig, yn cynyddu o 10% (yn 2013–15) i 20% erbyn 2050

 

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair thema:

  • cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg  

  • cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg  

  • creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun 

 

Mae gan ein system addysg statudol rôl hanfodol i'w chwarae o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.  Rhaid inni gynyddu nifer y dysgwyr ysgol sy'n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol a'r cyfle i'w ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd, yn sylweddol, i gyflawni'r nodau hyn. 

 

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynyddu cyfran yr holl grwpiau blwyddyn ysgol sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi pwyslais arbennig ar gynyddu nifer y dysgwyr ym Mlwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Mae gan y CSCA saith deilliant. Y deilliannau a osodir gan Lywodraeth Cymru yw:

  • Deilliant 1: Mwy o blant meithrin / plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam yn eu haddysg statudol i'r llall

  • Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig mewn Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol

  • Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

  • Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

 

Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (CSCA) 2022-32 - Cyngor Bro Morgannwg

 

Os hoffech gael copi caled o'r CSCA, cysylltwch â Jeremy Morgan yn: 

 

 

Dogfennau perthnasol

 

Manylion cyswllt

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau:

 

Jeremy Morgan

01446 709108

jmorgan@valeofglamorgan.gov.uk

 

Lisa Lewis

01446 709110

llewis@valeofglamorgan.gov.uk