Cost of Living Support Icon

being bilingualEich Taith Ddwyieithog

Mae llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod plant sy'n siarad dwy iaith yn gallu bod yn fwy amryddawn, yn fwy creadigol wrth feddwl ac yn gallu dygsu ieithoedd eraill yn haws.

 

Bydd plentyn sy'n gallu siarad dwy iaith yn gallu:

  • Cyfarthrebu gydag ystod eang o bobl 
  • Bod yn bont rhwng cenedlaethau, e.g. os oes neiniau a theidiau neu aelodau eraill o'r teulu sy'n gallu siarad Cymraeg.

  • Agor y drws i ddiwylliant gwahanol. Gyda'r cyfle i siarad Cymraeg, bydd eich plentyn yn cael budd o'r gorwelion ehangach a ddaw yn sgil y mwynhad a geir o ddau ddiwylliant.

 

  • Meddwl am ddewis addysg Gymraeg?

    Thinking of choosing Welsh medium education?

     

    Edrychwch ar ein tudalen Addysg ac Adnoddau Cymraeg i Rieni i gael rhagor o wybodaeth.


  • Yn ystod beichiogrwydd ac o enedigaeth  

     

    Gall babanod glywed lleisiau a cherddoriaeth yn ystod beichiogrwydd hyd yn oed. Os ydych chi'n awyddus i fagu eich plentyn yn ddwyieithog, nawr yw'r amser i ddechrau siarad a chanu yn Gymraeg i'ch babi neu wylio S4C iddyn nhw glywed y Gymraeg yn cael ei siarad.

     

     

    Mae’r rhaglen Cymraeg i Blant yn cynnig cymorth ymarferol i rieni ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plentyn. Mae Cymraeg i Blant y Fro yn cynnig gweithgareddau hwyliog, rhad ac am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys sesiynau tylino babanod, ioga babanod ac amser stori a chân. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu a dechrau defnyddio'r Gymraeg gyda'u babi.  Nid oes angen bod yn siaradwr Cymraeg i gymryd rhan - mae croeso i bawb.

     

    I gofrestru ar unrhyw un o’r grwpiau uchod cofrestrwch yma https://meithrin.cymru/cymraeg-i-blant/

  • Cyn Ysgol

    Mae'r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc gyfarfod unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta, a chwarae gyda'i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg.  Yn y Cylch Ti a Fi gallwch fwynhau gwneud ffrindiau newydd, chwarae gyda theganau, dysgu canu caneuon Cymraeg syml a gwrando ar straeon Cymraeg gyda'ch plentyn.

     

    Mae'r Cylch Meithrin yn gylch chwarae Cymraeg sy'n cynnig cyfle i'ch plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae o dan arweiniad staff proffesiynol a chymwysedig. Drwy fynychu'r Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar ei daith i addysg Gymraeg a bydd yn datblygu'n unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.  

     

    Cylchoedd Meithrin yn y Fro: 

    • Bethel (Penarth)

    • Bethesda (Barry)

    • Dechrau Dysgu (Barry)

    • Dinas Powys

    • Llanilltud Fawr (Llantwit Major)

    • Pili-Pala (Flying Start, Barry)

    • Y Bont Faen (Cowbridge)

    Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Mudiad Meithrin

     

    Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ofal plant yn Gymraeg a gwybodaeth am gymorth gyda chostau gofal plant. Gallwch chwilio'r Gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru a hidlo eich chwiliad yn ôl iaith. Neu gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol. 

  • Ysgolion Cymraeg 

    Dewis ysgol neu ffrwd Gymraeg yw'r ffordd orau i blant ddod yn ddwyieithog - yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.  

     

     

     

     

    Gweler y rhestr isod o Ysgolion Cymraeg ym Mro Morgannwg

     

    Mae gan bob un o'r ysgolion cynradd Cymraeg ysgol feithrin ar gyfer plant 3-4 oed.

     

     

    Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cadw ac yn datblygu eu sgiliau yn yn Gymraeg a'r Saesneg mae'n bwysig eu bod yn parhau i gael mynediad i addysg Gymraeg yn yr ysgol uwchradd.

     

     

     

    Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yw'r unig ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg.

     

    Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd

  • Adnoddau Cymraeg 

    Mae nifer o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth a gall taith eich plentyn i fod yn ddwyieithog ddechrau o oedran ifanc iawn. 

     

     

    bigstock-Illustration-of-Kids-Acting-Ou-31732823

    Mae amryw o lyfrynnau yn cynnwys gwybodaeth am fagu plant drwy gyfrwng y Gymraeg:

     

     

     

     

     

     

    Mae llyfrau Cymraeg, DVDs a CDs i blant a dysgwyr ar gael ar-lein:

     

    Being Bilingual Vale

    Os ydych yn ystyried addysgu eich plentyn drwy gyfrwng y Gymraeg ac eisiau gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael yna gallai tudalennau gwe Bod yn Ddwyieithog  helpu.

     

     

     

     

     

    Guide to Welsh Medium Education

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Canllaw i Addysg Gymraeg  sy’n cynnwys gwybodaeth am ddechrau eich taith ddwyieithog:

     

     

    Bilingual Journey

    Dechreuwch ar Daith Ddwyieithog ar eich cyfer chi a'ch plentyn drwy ddewis gofal plant ac addysg Cymraeg:

     

     

    SiaradDwyIaith01

    Mae'r Camau Cyntaf i Ddwyieithrwydd yn amlinellu manteision siarad dwy iaith: 

     

     

    Gwybodaeth i Rieni

     

    Y Blynyddoedd Cynnar

     

     

     

    Gweithgareddau Cymunedol a Chymraeg

     

     

  • Dysgu Gymraeg

    Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael ym Mro Morgannwg a Chaerdydd i oedolion ddysgu Cymraeg.

     

     

    Cymraeg i'r Teulu Mae Cymraeg i’r Teulu yn dysgu ymadroddion, caneuon, straeon a gemau ac mae wedi'i anelu at rieni, neiniau a theidiau a'r rhai sy'n gweithio gyda phlant:

     

     

     

    Learn welsh bro

     

 

Ysgolion Cymraeg ym Mro Morgannwg

 

  • Ysgol Gwaun y Nant

    Gwaun Y Nant - Outside 2b

    Capasity: 420 o ddisgyblion gydag 82 o leoedd meithrin rhan-amser.

    Ystod oedran: 3 - 11

    Mwy am yr ysgol hon: Mae adeilad yr ysgol hon wedi gwella fel rhan o ffudsoddiad o £3.79 miliwn ym Mand A 21st Century Schools Programme. Rhagor o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol

  • Ysgol Gymraeg Dewi Sant

    Ysgol Dewi Sant

    Capasiti: 210 o ddisgyblion gydag 56 o leoedd meithrin rhan-amser

    Ystod oedran: 3 – 11 

    Mwy am yr ysgol hon: Adeilad ysgol newydd a adeiladrwyd ym Mand A 21st Century Schools Programme. Rhagor o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol.

  • Ysgol Iolo Morganwg

    ysgol iolo morgannwg

    Capasiti: 210 o ddisgyblion gyda 30 o leoedd meithrin rhan-amser. 

    Ystod oedran: 3 – 11 

    Mwy am yr ysgol hon: Bydd Ysgol Iolo Morganwg yn cynyddu gapasiti leoedd gyfrwng Cymraeg o 210 i 420 gyda 96 leoedd meithrin rhan amser a chyfleusterau trochi trwy adeiladu ysgol newydd ar safle Fferm Darren. Mwy o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol.

  • Ysgol Pen y Garth

    Pen y Garth

    Capasity: 420 o ddisgyblion gydag 76 o leoedd meithrin rhan-amser. 

    Ystod oedran: 3 – 11 

    Mwy am yr ysgol hon: Mae Ysgol Gymraeg Pen-y-Garth ar gyrion Penarth ac mae ei dalgylch yn ymestyn i'r Silli, Dinas Powys a Llandochau. Rhagor o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol.

  • Ysgol Sant Baruc

     

    Ysgol Sant Baruc Classroom

    Capasiti: 210 o ddisgyblion gydag 48 o leoedd meithrin rhan-amser.

    Ystod oedran: 3 - 11

    Mwy am yr ysgol hon: Er mwyn darparu lleoedd ysgol ychwanegol i gwrdd â’r galw am addysg gyfrwng Cymraeg yn y dyfodol, mae Ysgol Sant Baruc wedi ehangu o 210  leoedd i 420  leoedd ac wedi symud i adeilad newydd o’r radd flaenaf ar Lannau’r Barri. Mwy o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol.  

     

  • Ysgol Sant Curig 

    sant curig

    Capasiti: 420 o ddisgyblion gydag 114 o leoedd meithrin rhan-amser

    Ystod oedran: 3 – 11

    Mwy am yr ysgol: Mae Ysgol Sant Curig mewn lleoliad canolog yn y Barri, rhwng Ffordd y Coleg a Heol Buttrills, ac eto rydym yn ffodus o fod ar safle maes gwyrdd helaeth. Mae plant yn dod o bob rhan o'r dref ac mae ein dalgych hefyd yn cynnwys y Rhws a Gwenfo. Rhagor o wybodaeth gan Fy Ysgol Leol

     

  • Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg 

    Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building

    Capasiti: 210 o ddisgyblion cynradd gyda 56 o leoedd meithrin rhan-amser. 1361 o ddisgyblion uwchradd gyda 6ed dosbarth.

    Ystod oedran: 3 – 18

    Mwy am yr ysgol: Adeilad ysgol newydd a adeiladwyd ym Mand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Bydd gwaith adnewyddu ac ehangu i 1660 o ddisgyblion uwchradd y cael ei gyflwyno em Mand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Rhagor o wybodaeth gan 'Fy Ysgol Leol'. 

     

     

     

     

     

     

 

Canolfan Iaith Gymraeg

A yw eich plentyn yn 5-11 oed? Ydych chi wedi bod yn ystyried addysg Gymraeg? Mae cyfle cyffrous bellach ar gael drwy raglen 12 wythnos newydd yn ein Canolfan Gymraeg.

 

Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg, bydd ein Canolfan yn caniatáu i ddysgwyr oedran cynradd gael eu trochi yn yr iaith, gan ddatblygu lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg. 


Mwy o wybodaeth am y Ganolfan Iaith Gymraeg

Chwiliwch am Ofal Plant a Gweithgareddau Cymraeg

 

Chwiliwch am ofal plant a gweithgareddau Cymraeg yn y Fro drwy fynd i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru a hidlo yn ôl 'iaith':

 

FIS-logo-banner

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro