Rhaglen Gwyliau Haf 2025
Hwyl yr Haf i Deuluoedd ym Mro Morgannwg!
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â sefydliadau lleol i gyflwyno rhestr wych o weithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr haf hwn!
Rydym wedi trefnu popeth yn chwe adran wythnosol a hefyd yn ôl grŵp oedran i'w gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i'r hyn sy'n gweddu orau i'ch teulu.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd i weld yr holl weithgareddau ar gyfer yr wythnos honno.
- Neu, defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i weithgareddau ar gyfer grwpiau oedran penodol:
- Cyn-ysgol (0–3 oed)
- Cynradd (4–11 oed)
- Uwchradd (11–18 oed)
Mae yna hefyd adran Gynhwysol gyda gweithgareddau a digwyddiadau sy'n groesawgar ac yn gefnogol i blant ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Sylwch os gwelwch yn dda:
Nid yw rhestru sefydliad yn Rhaglen Wyliau GGiD yn golygu bod Cyngor Bro Morgannwg yn cymeradwyo’r sefydliad hwnnw, ac nid yw peidio â rhestru unrhyw sefydliad yn golygu nad ydym yn ei gefnogi ychwaith. Mae'n gyfrifoldeb ar bob rhiant neu ofalwr i wneud eu gwiriadau eu hunain cyn ymgysylltu ag unrhyw ddarparwr. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cadarnhau a oes gan staff wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyfredol a sicrhau bod y sefydliad yn bodloni safonau diogelu priodol.