A fydd yn rhaid i mi dalu unrhyw beth?
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn ariannu uchafswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant bob wythnos. Mae'r arian gan y llywodraeth ar gyfer yr addysg a'r gofal y mae'r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn eu darparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir cost ychwanegol ar eu cyfer a bydd y darparwyr yn gallu codi ffi arnoch am y rhain.
Nodyn Atgoffa: Mae’r Cynnig Gofal Plant yn ariannu uchafswm o 48 allan o 52 wythnos y flwyddyn ac felly bydd rhieni’n atebol am unrhyw ofal plant a ddefnyddir yn ystod yr wythnosau nas telir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.
A allaf ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?
Gallwch, hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y diwrnod ar ben eich lleoliad Addysg Feithrin ar unrhyw ddiwrnod.
Yn ystod y cyfnod gwyliau gall plentyn felly ddefnyddio uchafswm o ddau leoliad cofrestredig dan y cynnig.
Faint o arian gofal plant allaf ei ddefnyddio yn ystod gwyliau ysgol?
Dyrennir 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau y tymor i blant.
- Rhiant sy’n gymwys am 1 tymor - 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
- Rhiant sy’n gymwys am 2 dymor - 6 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
- Rhiant sy’n gymwys am 3 thymor - 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
- Rhiant sy’n gymwys am 4 tymor - 12 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
- Rhiant sy’n gymwys am 5 tymor - 15 wythnos o ddarpariaeth gwyliau.
Gall wythnosau nas defnyddir o bob tymor gael eu cario i’r tymor nesaf gan gynnwys i’r flwyddyn academaidd newydd hefyd.
Ni ellir defnyddio’r wythnosau gwyliau cyn eu bod wedi’u cronni.
A allaf gronni oriau?
Na. Caiff rhieni gyfanswm o 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth Addysg Feithrin a gofal plant ar y cyd gyda rhieni’n dewis faint o’r 30 awr i’w ddefnyddio.
Gellir cario unrhyw wythnosau gwyliau drosodd a’u defnyddio yn y tymor nesaf, ar yr amod eu bod yn parhau’n gymwys i dderbyn y Cynnig.
Beth os yw fy amgylchiadau cyflogaeth yn newid?
O dro i dro gall teuluoedd ddod yn anghymwys ar gyfer y cynnig er enghraifft os yw un rhiant neu’r ddau riant yn colli swydd ac yn disgyn yn is na’r lleiafswm oriau angenrheidiol. Er mwyn cynnig sefydlogrwydd i’r plant a’r darparwyr gofal plant, ac i roi’r cyfle i rieni ddod yn gymwys eto, bydd y rhieni hynny sy’n dod yn anghymwys yn dal i allu manteisio ar y cynnig am gyfnod cyfyngedig o amser (cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos).
Cyfrifoldeb y rhiant yw hysbysu’r Awdurdod Lleol a’r darparwr os yw ei amgylchiadau’n newid.
Oes rhaid i mi gael mynediad at Addysg Feithrin i gael y cyllid gofal plant?
Nac oes. Gallwch barhau i ddefnyddio 17.5 awr yr wythnos o gyllid gofal plant yn ystod y tymor os dewiswch beidio manteisio ar y 12.5 awr yr wythnos o gyllid addysg feithrin.
Fodd bynnag, nid yw oriau gofal plant sy'n cael eu hariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant yn cynyddu os nad ydych yn dechrau'ch lle addysg feithrin.