Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau Teg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau iaith, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol.
Mae hefyd yn pwysleisio datblygiad corfforol a nodi anghenion uchel yn gynnar. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy ddarparu cymorth ac arweiniad iechyd, grwpiau a chymorth rhianta, a gofal plant rhan-amser am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth am Dechrau'n Deg ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i wefan Cwmpawd Teulu y Fro: